Diolch Steff!
Ymateb i’r her
Licsen i ddiolch i Daniel Johnson, ysgogydd BroAber360 am fy enwebu i ymateb i her mis “Mynd am Dro”.
I chi sy’n fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, byddwch chi wedi gweld fy mod wedi crwydro tipyn dros y misoedd diwethaf boed ar ddwy droed neu ar ddwy olwyn. Oddi ar y llwybrau mwyaf prysur, mae’r ardal hon yn llawn llwybrau gwych a golygfeydd sy’n gwneud i chi feddwl:-
Pam so fan hyn fyn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol!
Yn hynny o beth, roedd dewis pa wâc yn bach o her.
Y Borth i Gyffordd Dyfi – Penwythnos y Pasg eleni
Er fy mod wedi dweud fy mod am gwblhau rhan Ceredigion o Lwybr Arfordir Ceredigion ers tro dyma oedd un o’r ychydig ddarnau coll o’r jig-so. Os chi’n cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir chi’n moyn mynd ar hyd yr arfordir nagych chi ond yn fy marn i dyma oedd un o ddarnau gorau’r holl lwybr.
Wedi parcio’r car ar ochr y morglawdd yn Y Borth fe gerddais ar y pafin trwy’r pentref a’i chartrefi lliwgar cyn troi ar ôl ychydig i gyfeiriad Eglwys Sant Matthew a Chors Fochno. Gyda’r haul yn tywynnu uwchben, fe agorais y gât i groesi’r rheilffordd gan wybod y byddai’n 16 cilomedr cyn i mi ei weld eto.
Cors Fochno
Gan adael bwrlwm glan môr Y Borth y tu ôl i mi gyrhaeddais wastadir eang Cors Fochno sydd wrth gwrs yn safle pwysig iawn i bob math o fywyd gwyllt a chwedloniaeth.
Dilynais y llwybr clir a fflat trwy’r gors i gyfeiriad pentref a enwir ar ôl cymeriad arall sydd yn gysylltiedig â Chors Fochno sef Taliesin. Credir taw yn ymyl y gors gwnaeth Elffin ddarganfod y bardd enwog yn faban.
Hoi fach yng Nghletwr
Gyda’r sgidiau yn dechrau rhwto tamed bach o ganlyniad i wisgo sanau ysgafnach nag arfer, penderfynais y bydden i’n sorto mas y broblem a newid i’r sanau arferol oedd yn fy mag wrth gael egwyl fach hanner ffordd yn un o fy hoff fusnesau bach lleol sef Cletwr.
Ar ôl twlu nôl potel o ddŵr gorau Sir Gâr a darllen am hanes cyfoethog Tre’r Ddôl, fe es i gyfeiriad y ffordd fawr cyn troi yn glou iawn lan y llwybr sydd yn mynd drwy goed Pantglas Mawr.
Y dirwedd yn newid
Wedi croesi’r ffordd fach a dilyn y llwybr lawr i Goed Pant-coch a Choed Penrhyn-gerwin, roedd y daith wedi newid yn gyfan gwbl. Yn hytrach na thaith fflat trwy’r gors, roeddwn bellach yn mynd lan a lawr trwy gaeau a choed a dros ambell i nant fach. Uwchben y coed, wrth gwrs, roeddwn yn gallu gweld copaon cochion y Topie yn edrych mor wyllt ac yn drawiadol.
Ymhen dim fodd bynnag, daeth golygfa newydd i’m cyfareddu ac roedd rhaid stopio am lun. Cefais fy ngolwg cyntaf o’r Ddyfi a mynyddoedd de Eryri. Efallai nad yw Ceredigion yn rhan o’r Parc Cenedlaethol roedd fy llygaid yn sicr yno am weddill y daith.
Cinio yng Nghwm Einion
Dwi wedi gyrru heibio’r arwydd “Artists Valley” ers blynyddoedd ond doeddwn erioed wedi bod lan i Gwm Einion i weld beth oedd ’na. Yn ddyffryn bach serth roedd yn fy atgoffa ychydig o Gwm Cletwr ond yma roedd pont digon newydd ei golwg wedi ei chodi i groesi’r afon. Y lle delfrydol i fwynhau bocs bwyd o basta a thun o facrell mewn saws tomato. Gyda phinsiad o oregano, tsili sych mân a llwyaid o olew’r olewydd dyma fy ffefryn i ginio ar hyn o bryd.
Yn ffodus, doedd neb o gwmpas i darfu ar y llonyddwch nac i gonan am dawch pysgod. Gallen i fod wedi aros yno i drial sgwennu cân i albwm nesaf Bwca ond rhaid oedd dweud ffarwel neu bydden i’n colli’r trên!
Golygfa orau o Geredigion
Gan barhau i gyfeiriad y gogledd, yn fuan, gwnes ddarganfod Y Foel Fawr. Er nad yw’r llwybr fwy na rhyw 100m o uchder, roedd yr olygfa 180 gradd oedd o mlaen i yn hollol ryfeddol. Roeddwn yn gallu gweld Y Borth, Ynyslas, Aberdyfi, holl fynyddoedd De Eryri, Afon Dyfi, Ynyshir a llawer iawn mwy. Doeddwn methu deall pam nad oedd neb arall yno ar ddiwrnod mor braf. Tasech chi ond am wneud darn bach o’r llwybr yma yna, byddai Cwm Einion a’r Foel Fawr yn ddewis da.
Pasbort yn barod
Wedi mynd lawr o’r Foel Fawr fe gyrhaeddais y ffordd fach ger fferm Melindwr. Yma ar y bont dros Afon Melindwr gwnes i adael Llwybr yr Arfordir gan ddilyn llwybr i’r chwith i gyfeiriad Glandyfi. Yma oedd tyle ola’r daith ond ymhen dim roeddwn yn mynd am lawr unwaith eto a chyrhaeddais bentref bach Glandyfi. Ar ddiwrnod braf fel hyn dyna le pert!
Gan groesi’r ffordd fawr fe wnes i droi lawr y ffordd graean oedd yn mynd yn baralel i’r platfform yr holl ffordd lawr i’r orsaf unigryw hon. Er bod y ffordd i’r orsaf yng Ngheredigion a’r tŷ agosaf yng Ngwynedd mae’r orsaf ei hun yn Sir Drefaldwyn.
Gan gyrraedd rhyw dri chwarter awr yn gynnar, cefais digon o amser i gael pip rownd yr orsaf a thynnu ambell i lun. Roedd e’n brofiad digon swreal bod ar blatfform gorsaf mor dawel ac anghysbell.
Trên nôl i’r Borth
Yn fuan iawn daeth y trên i’m cludo nôl i fy man cychwyn lawr ar lan y môr. Braf oedd gallu cwblhau’r daith gan eistedd a mwynhau’r golygfeydd o’r mynyddoedd ar yr un ochr ac aber Afon Dyfi’r ochr draw.
Os ydw i wedi perswadio chi i wneud y daith yma pan ddaw’r diwrnod braf nesaf rwy’n gobeithio gwnewch chi fwynhau cymaint a gwnes i.
Hoffwn enwebu fy nghyd-aelod o Iwcadwli, Lona Mason i ymgymryd â’r her yma nesaf, fel cerddwraig rheolaidd dwi’n edrych ymlaen i weld ble mae am fynd â ni am dro.