Drama hwyr … unwaith eto!

Aberystwyth 1 – 0 Y Drenewydd 20/03/2021

gan Gruffudd Huw
Ofori a Williams yn cystadlu am y bêl
DSC_0769

Er gwaethaf y golled i’r Bari benwythnos diwethaf, wedi gôl hwyr ar ôl 87 munud, roedd Aber yn dychwelyd i Goedlan y Parc yn barod am gêm hynod bwysig yn erbyn Y Drenewydd. Cyn y gêm, roedd Y Drenewydd yn nawfed yn nhabl y gynghrair a chwe phwynt o flaen Aber.

Bellach mae Aber dim ond triphwynt tu ôl i’r Drenewydd ac uwchben Met Caerdydd yn dilyn buddugoliaeth haeddiannol. Yn dilyn patrwm nifer o gemau eraill Aber yn ddiweddar, roedd angen aros tan yn hwyr yn y gêm am yr eiliad allweddol a gôl arall gan un o’r chwaraewyr newydd. Y tro yma Harry Franklin oedd yn serennu trwy sgorio’r gôl fuddugol ar ôl i’r Drenewydd fynd lawr i ddeg dyn.

Aber ddechreuodd yr hanner cyntaf gryfaf ond ni welwyd llawer o gyffro. Roedd hi’n agos ond prin oedd y cyfleoedd i’r ddau dîm. Protestiodd chwaraewyr Aber am gic o’r smotyn ar ôl 43 munud ond ni wrandawodd y dyfarnwr. felly 0-0 ar yr hanner.

Roedd yr ail hanner yn llawer mwy bywiog. Dim ond dwy funud gymrodd hi i’r Drenewydd gael cyfle cynta’r hanner ond fe wnaeth Roberts ddigon i orfodi’r ymosodwr i saethu’r bêl dros y trawsbren. Ar ôl 54 munud daeth digwyddiad tyngedfennol i gwrs y gêm gyda blaenwr Y Drenewydd, Ofori, yn cael ei ddanfon o’r maes ar ôl derbyn ei ail gerdyn melyn. Roedd gan Aber fantais enfawr nawr ac yn dechrau rheoli’r gêm

Bu bron i Aber sgorio wedi 66 munud. Chwaraeodd Jack Rimmer bêl berffaith dros yr amddiffyn tuag at Marc Williams. Rheolodd Williams y bêl gan osgoi un amddiffynnwr. Torrodd ymhellach i mewn i’r cwrt gan basio’r bêl drwy goesau amddiffynnwr arall ond roedd yr ergyd yn siomedig ac yn arbediad hawdd i Dave Jones yn y gôl i’r Drenewydd.

Munud yn ddiweddarach, bu bron i’r Drenewydd fynd ar y blaen yn erbyn rhediad y chwarae. Tarodd Alex Fletcher y bêl o ymyl y cwrt ond deifiodd Roberts i’r chwith a gwthio’r bêl allan am gornel i’r ymwelwyr.

Wrth i’r gêm symud yn ei flaen, roedd Aber yn amlwg yn rheoli. Ar ôl 74 munud o chwarae, saethodd Lee Jenkins o ymyl y cwrt chwech, ond gwelwyd arbediad anhygoel gan Jones y golwr i gadw’i dîm yn y gêm.

O’r diwedd, ar ôl 78 munud, fe sgoriodd Aber. Ciciwyd y bêl ymlaen yn obeithiol gan Jon Owen tuag at y cwrt cosbi. Yna peniad gwael gan amddiffynnwr y Drenewydd, Mills-Evans, yn syth tuag at Harry Franklin. Rhedodd Franklin heibio’r tri amddiffynnwr oedd yn ei amgylchynu a chodi’r bêl dros y golwr wrth iddo redeg ato. Y gôl gyntaf i Franklin mewn crys gwyrdd ac mae’n siŵr fod mwy i ddod!

Bu bron i’r Drenewydd dorri calonnau Aber gydag ond 8 munud yn weddill. Enillodd yr ymwelwyr gic o’r smotyn a chamodd Fletcher i’w gymryd. Roedd hi’n ergyd dda i gornel dde’r gôl ond roedd arbediad Roberts i gadw Aber ar y blaen hyd yn oed yn well!

Buddugoliaeth bwysig i Aber. Perfformiad da gan y tîm cyfan ond canmoliaeth arbennig i’r amddiffyn am beidio ag ildio gôl – llechen lan am y tro cyntaf ers y 6ed o Hydref pan enillodd Aber o 4-0 yn erbyn Y Fflint!

Newyddion siomedig i Benrhyncoch.

Cyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed ar 18 Mawrth na fyddai tymor Cynghrair JD Cymru’r Gogledd a De yn medru dechrau gan na roddwyd statws elît i’r gynghrair gan y Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol. Mae hyn yn newyddion siomedig i glybiau fel Penrhyncoch sydd wedi gweithio’n galed i baratoi ar gyfer y tymor. Mae’r cyhoeddiad hefyd yn codi’r cwestiwn na fydd tîm yn disgyn o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd y tymor?