Er gwaethaf y golled siomedig yn erbyn Pen-y-bont wythnos diwethaf, roedd Aber yn benderfynol o gael canlyniad da yn erbyn y Fflint. Er bod y Fflint yn ail yn y gynghrair, bu bron i Aber gael gêm gyfartal yn eu herbyn ym mis Awst gan golli o un gôl yn unig. Yn anffodus, ailadroddwyd hanes gydag Aber yn brwydro’n ddewr ond yn colli o drwch blewyn diolch i ddrama yn eiliadau ola’r gêm.
Roedd yr hanner cyntaf yn gystadleuol iawn gyda digonedd o gyfleoedd a chyffro i gadw’r cefnogwyr ar flaen eu seddi. Daeth y cyfle gwerth-chweil cyntaf i’r ymwelwyr ar ôl 16 munud wrth i groesiad peryglus gael ei benio dros y trawsbren gan Ben Maher. Ymatebodd Aber yn dda i’r pwysau cynnar gan yr ymwelwyr gydag ergyd Harry Franklin o ymyl y cwrt cosbi’n cael ei arbed dwy funud yn ddiweddarach.
Ar ôl 19 munud, gwelwyd gwrthdaro oddi ar y bêl ar yr asgell dde gyda chwaraewyr a’r rheolwyr yn ymuno mewn! Rhoddodd y dyfarnwr gerdyn melyn i reolwr Fflint a’r chwaraewyr Jones a Kenny am y gwrthdaro.
Wedi 21 munud o chwarae, cafodd Aber gyfle gwych wrth i Matty Jones groesi’n hyfryd o gornel i’r postyn pellaf. Er i Louis Bradford gyrraedd y bêl, peniodd dros y trawsbren.
Er mae Aber gafodd cyfleoedd gorau’r gêm hyd yn hyn, yr ymwelwyr sgoriodd gyntaf wrth i Jack Kenny sgorio o ongl anodd o gornel dde’r cwrt cosbi.
Roedd ymateb y tîm cartref yn dda gydag amddiffyn y Fflint o dan bwysau sylweddol. Roedd pêl-droed Aber yn hyfryd, gyda sawl symudiad celfydd â’r bêl yn cael ei basio’n gyflym a chywrain o amgylch y cae.
Cafodd Matty Jones gyfle munud cyn diwedd yr hanner ond roedd ei ymdrech anhygoel o tua 36 llath mymryn yn llydan.
Doedd dim dwywaith amdani mae Aber oedd y tîm gorau yn yr ail hanner. Parhaodd y pasio perffaith a’r croesi cywrain. Owain Jones gafodd y cyfle nesaf ar ôl 55 munud, ond yn anfoddus methodd i gadw’i beniad lawr ac aeth dros y trawsbren.
Roedd Jon Rushton, golwr y Fflint, yn cael gêm brysur ac ar ôl 58 munud arbedodd ergyd anghredadwy wrth i Veale ergydio ar yr hanner foli o tua 25 llath ar ôl i’r Fflint ceisio clirio’r cornel.
Arbedodd Rushton ymdrech wych arall y tro yma gan Owain Jones wrth iddo ergydio ar y foli o ymyl y cwrt cosbi. Ond, roedd y pwysau’n ormod i’r Fflint ac ar ôl 65 munud, sgoriodd y tîm cartref o’r diwedd.
Tarodd Rimmer pêl obeithiol i mewn i’r cwrt cosbi’n obeithiol ac fe fethodd yr amddiffyn i glirio’r bêl ymhellach nag ymyl y cwrt. Wrth i’r bêl syrthio, tarodd Bradford y bêl gyda thu fewn ei droed ar y foli. Hedfanodd y bêl i fyny i’r awyr cyn cwympo’n berffaith dros ben yr amddiffynnwr i mewn i’r gôl.
Roedd Aber dim ond yn gyfartal am dair munud cyn i Kenny sgorio’i ail. Peniwyd y bêl dros yr amddiffyn gan Wilde ac ergydiodd Kenny’n hyderus gan grymanu’r bêl heibio Zabret yn y gôl.
Ar ôl 72 munud, cafodd Bradford gyfle gwych i ddod â ‘r gêm yn gyfartal ond fe beniodd yn syth at Rushton o groesiad perffaith gan Owain Jones.
Bu bron i Harry Franklin, chwaraewr gorau Aber, sgorio ar ôl 76 munud wrth iddo grymanu’r bêl o ymyl y cwrt ond arbedid Rushton yn wych unwaith eto. Daeth Franklin yn agos eto ar ôl 87 munud wrth iddo daro’r trawsbren o ongl amhosib ar yr hanner foli o gornel dde’r cwrt.
Daeth tor calon hwyr i Aber ar ôl i’r cynorthwyydd ddyfarnu fod Steff Davies yn cam-sefyll. Lansiwyd y bêl yn hir gan Veale i mewn i’r cwrt cosbi gydag eiliadau’n unig yn weddil ar y cloc. Methodd y golwr i ddelio gyda’r bêl uchel ac adlamodd oddi ar yr amddiffynnwr a glanio’n berffaith i Steff Davies. Sgoriodd Davies yn hawdd gan basio’r bêl i mewn i’r gôl. Er ei fod yn camsefyll, ddaeth y bêl ato oddi ar yr amddiffynnwr. Dylai’r gôl fod wedi cyfri – trafodwch?