Diolch Lloyd

Lloyd yn dod a data dyddiol COVID i ben, ond yn parhau i rannu ystadegau – am COVID ac eraill

Lloyd

Ers 15 mis, mae Lloyd Warburton wedi postio ystadegau COVID ar ei wefan coronaviruscymru.wales yn ddyddiol.

Erbyn hyn, gyda dros 23,000 o ddilynwyr a 430 o ddiweddariadau dyddiol, daeth postio dyddiol Lloyd i ben dydd Gwener, 28ain o Fai.

Mae Lloyd yn fyfyriwr yn Ysgol Penglais ac yn byw yn Moriah gyda’i rieni a’i frawd. Ym mis Rhagfyr, enillodd Lloyd wobr Dathlu Dewrder S4C a dyma ei gyfweliad ar Heno: –

Gwaith yn parhau

Ond er bod postiadau dyddiol Lloyd yn dod i ben, bydd yn parhau i bostio diweddariad wythnosol ar ddydd Sadwrn,

Byddaf yn trydaru unrhyw bethau arwyddocaol neu ddiddorol a ddarganfyddaf yn y data, pryd bynnag y dof o hyd i unrhyw beth. Byddaf hefyd yn rhannu data nad yw’n ymwneud â Covid, a ddylai, gobeithio, fod yn fwy diddorol a chadarnhaol.

Os yw ystadegau Covid yn mynd ar siâp gellygen eto, byddaf yn ystyried mynd yn ôl i ddiweddariadau mwy rheolaidd, ond gobeithio na fydd yn cyrraedd y pwynt hwnnw.

Bydd hwn hefyd yn gyfle da i mi baratoi yn academaidd ac yn feddyliol ar gyfer fy mlwyddyn olaf o Safon Uwch, ac ystyried beth i’w wneud nesaf gyda fy mywyd unwaith y byddaf wedi gorffen yn y chweched dosbarth!

Pam fod gwaith Lloyd yn arwyddocaol?

Mae dilynwyr Lloyd yn sicr o bwysigrwydd rhannu’r data, a oedd ar adegau yn anodd ei gyrraedd, a bod gwefan Lloyd yn ffynhonell ddibynadwy glir dros y 15 mis diwethaf. Mewn cyfnod lle roedd data yn ansicr, daeth gwybodaeth Lloyd a sicrwydd i nifer.

Sut gallwch chi gefnogi Lloyd?

Os ydych chi yn gwerthfawrogi ymdrechion Lloyd, beth am brynu coffi iddo drwy ko-fi.com/lloydcymru

Pwy arall dylech chi ei ddilyn?

Un ystadegydd arall lleol yw Angharad Hafod sydd yn cyfeirio ar ystadegau Ceredigion, yn ogystal a’r darlun cenedlaethol ac yn rhannu data Dr Lowri Williams