Dilyniant Daniel o stori Dafydd ap Gwilym

Nofel gomedi newydd Daniel Davies yn dychmygu perthynas Dafydd ap Gwilym ag Ewrop.

Mae Daniel Davies, awdur o Ben-bont Ryd-y-beddau ger Aberystwyth, wedi ysgrifennu nofel arall gomedi am hanes Dafydd ap Gwilym.

Pwy yw Daniel?

Yn wreiddiol o Lanarth, aeth Daniel i Ysgol Uwchradd Aberaeron, gan gwblhau gradd mewn Cemeg a doethuriaeth yn yr un pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio mewn canolfan alwadau ffôn am gyfnod, ac yn y diwydiant adeiladu cyn troi at ohebiaeth ar gyfer y Cambrian News.

Symudodd i weithio fel newyddiadurwr ar-lein gyda BBC Cymru. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar liwt ei hun. Mae’n byw gyda’i deulu ym Mhen-bont Rhydybeddau, Ceredigion.

Fel awdur, mae Daniel wedi ysgrifennu llyfrau crafog am isddiwylliant Aberystwyth. Yn 2011 enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru am ei nofel Tair Rheol Anhrefn a daeth Pelé, Gerson a’r Angel (2001), Gwylliaid Glyndŵr (2007) ac Yr Eumenides (2017) yn agos i’r brig yn yr un gystadleuaeth. Ymysg ei lyfrau eraill, mae Twist ar Ugain (2006), Hei-Ho! (2009), Allez Les Gallois (2016) ac Arwyr (2018) a Pedwaredd Rheol Anhrefn (2019), ac wrth gwrs, Ceiliog Dandi (2020). Mae nifer o’r rhain ar gael fel e-lyfrau hefyd ar www.ffolio.cymru

Beth sydd yn wahanol am y nofel yma?

Yn y nofel gyntaf, Ceiliog Dandi (2020) rydym yn dilyn helyntion Dafydd ap Gwilym ac mae’n swnio yn ddiflas ond mae’n nofel ddoniol iawn fel dywed Catrin Beard

Mae o’n gwisgo’i glyfrwch yn ysgafn … Mae hwyl a dychan yma … mae’n lot o sbort.’

Ffug-ddyddiadur Dafydd ap Gwilym yw Oes Eos hefyd yn dilyn hynt a helynt y bardd a’i gyfeillion, sydd hefyd yn feirdd teithiol. Yn llawn hiwmor crafog a chyfeiriadau sy’n hynod o amserol, megis perthynas y Cymry â gwledydd eraill Ewrop a Newyddion Ffug, mae’r nofel yn agor cil y drws dychmygol ar beth o’n hanes cenedlaethol!

Bu raid i Daniel wneud cryn dipyn o waith ymchwil i baratoi’r nofel

Bu’n rhaid imi ddarllen pob un o gerddi’r bardd (151 i gyd) yn drwyadl yn ogystal â darllen nifer o lyfrau ar waith a bywyd y bardd. Hefyd roedd angen darllen tipyn am hanes Lloegr ac Ewrop yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel Can Mlynedd i chwilio am ddeunydd crai.

Pwy sydd wedi gwneud arlunwaith?

Ruth Jên o Dal-y-Bont sydd yn gyfrifol am y delweddau, artist y mae pawb yng Ngogledd Ceredigion yn nabod ei gwaith.

Pam wnaeth Daniel ddechrau ysgrifennu?

Yn ei gyfweliad i Lyfrgelloedd Cymru ym Medi 2020, dywed Daniel: –

Yn fyr, roeddwn am ysgrifennu rhywbeth y byddwn innau am ei ddarllen yn y gobaith y byddai pobl eraill hefyd am ddarllen nofelau comig yn y Gymraeg.

Gellir prynu Oes Eos (Gwasg Carreg Gwalch) yn eich siop lyfrau leol am £8 (bargen!) neu drwy Gwales.