Deiseb swyddi yn croesi trothwy pwysig

Deiseb ariannu teg i’r Llyfrgell Genedlaethol yn croesi’r deg mil

gan Iestyn Hughes

Mae deiseb, a grëwyd gan Sue Jones-Davies, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllid teg i’r Llyfrgell Genedlaethol, wedi croesi’r trothwy o 10,000 o enwau. Mae hyn yn golygu y bydd pwyllgor deisebau’r Senedd yn ei hystyried ar gyfer dadl.

Wedi blynyddoedd llwm iawn o ran ariannu craidd gan Lywodraeth Cymru, mae’r Llyfrgell yn wynebu gorfod diswyddo 30 o’u staff.

Mewn trydariadau fore Llun, gofynnodd yr Athro Richard Wyn Jones i’r ddeiseb gael ei thrafod ar fyrder ac i’r Gweinidog perthnasol gael ei ddal i gyfrif am y mater.

Gellwch ychwanegu eich enw i’r ddeiseb drwy ddilyn y ddolen yma.