Dechrau gwych i Aber yn sicrhau buddugoliaeth arall

Aberystwyth 3 – 1 Derwyddon Cefn 02/04/2021

gan Gruffudd Huw
Derwyddon-4

Gyda’r haul yn gwenu ar Goedlan y Parc, roedd hi’n argoeli i fod yn brynhawn gwych i wylio pêl-droed. Gyda Derwyddon Cefn ar waelod y tabl, byddai’n gyfle da i Aber orffen cymal cyntaf y gynghrair ar nodyn uchel.

Llwyddodd Aberystwyth i gynnal eu rhediad da ac ennill y gêm er gwaethaf absenoldeb Marc Williams (gwaharddiad) a Jamie Reed (anaf). Lee Jenkins oedd y capten yn lle Williams gan gapteinio’r tîm am y tro cyntaf yn 19 mlwydd oed!

Gwelwyd dechrau anhygoel gan y tîm cartref gan sgorio tair gôl o fewn 25 munud!

Daeth y gyntaf o’r rhain ar ôl 3 munud yn unig. Taflodd Jack Thorn y bêl yn hir tuag at y cwrt cosbi. Neidiodd Jenkins yn uchel ac ôl-beniodd y bêl ar draws y cwrt. Methodd amddiffyn yr ymwelwyr glirio’r bêl gan roi cyfle i Jon Owen i ergydio. Saethodd y bêl ar y foli a’i thanio i gefn y rhwyd.

Bum munud yn ddiweddarach, dyblwyd mantais y tîm cartref. Enillodd Harry Franklin gic o’r smotyn ar ôl iddo gael ei faglu yn y cwrt cosbi. Camodd Matthew Jones i gymryd y gic a tharo’r bêl i’r cornel gwaelod de gan hel y golwr i’r cyfeiriad anghywir.

Roedd Aber yn rheoli’r gêm yn y chwarter cyntaf ac fe sgoriodd Louis Bradford drydedd gôl ar ôl 25 munud o chwarae. Croeswyd y bêl gan Jones o’r asgell dde tuag at Owen. Yn debyg i Jenkins ar gyfer y gôl gyntaf, ond y tro yma Owen wnaeth ôl-benio. Rheolodd Jenkins y bêl a’i phasio i Jonathan Evans. Ergydiodd Evans ond bwriodd y postyn ac adlamodd y bêl tuag at Bradford. Saethodd Bradford ac, er i’r golwr gael llaw i’r bêl, fe rwydodd gan roi Aber mewn safle cyfforddus iawn.

Gallai Aber fod wedi sgorio pedwaredd cyn diwedd yr hanner. Rhedodd Evans i lawr yr asgell chwith a thorrodd i mewn i’r cwrt cosbi. Ceisiodd grymanu’r bêl tuag at gornel dde’r rhwyd ond arbedodd Michael Jones i’r ymwelwyr.

Yn yr ail hanner, roedd Derwyddon Cefn yn llawer mwy bywiog ac Aber oedd y tîm o dan bwysau. Bu bron i Charley Edge (brodor o Aberystwyth) sgorio i’r ymwelwyr ar ôl 58 munud ond roedd Connor Roberts yn benderfynol o geisio cadw llechen lân ac arbedodd yr ergyd.

Ni fyddai’n gêm Aberystwyth heb rywfaint o ddrama hwyr! Ar ôl 83 munud, enillodd Derwyddon Cefn gic o’r smotyn pan faglwyd Flint. Arbedodd Roberts yr ergyd gyntaf ond daeth y bêl ’nôl i Alex Darlington ac fe sgoriodd ar yr ail gynnig gan roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr. Yn anffodus i Aber anfonwyd Roberts o’r cae ar ôl cael sgwrs fywiog gyda’r dyfarnwr!

Daeth Alex Pennock i’r cae yn ei le ond amddiffyn fu hanes Aber am weddill y gêm gyda dim ond 10 dyn. Ond yr agosa ddaeth Derwyddon Cefn i  sgorio eto oedd gyda chic olaf y gêm; ergydiodd Darlington yn isel ond arbedodd Pennock.

Trydedd fuddugoliaeth i Aber o bedair gêm gartref ers yr ail-ddechrau. Er na chyflawnwyd nod Gavin Allen ar ddechrau’r tymor o gyrraedd y chwech uchaf, mae’n edrych fwyfwy gobeithiol i Aber wedi iddynt orffen cymal cyntaf y tymor yn 8fed ar ôl bod ar waelod y gynghrair fis yn ôl.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.