gan
Y Ddolen (papur bro)
Mae Y DDOLEN Rhagfyr wedi cyrraedd y siopau ac yn rhifyn swmpus 32 tudalen.
Mynnwch eich copi chi o’ch siop leol penwythnos yma.
Blas o gynnwys mis Rhagfyr
- Newyddion o’r Pentrefi
- Neges Nadolig gan y Parch Julian Smith
- Fy ngwaith i – Carl Cruickshank
- Sgwrs gyda Glan Davies am ei lyfr newydd ‘O’r Aman i’r Ystwyth’
- Testunau Eisteddfod y DDOLEN 2022 a’r llun ar gyfer y gystadleuaeth capsiwn.
- Aros i Feddwl
- Cwis yr Ŵyl – cyfle i ennill tocyn rhodd te prynhawn i ddau gan Mirain Griffiths
- Cornel y Beirdd
- Pen-blwydd y Bugeilgwn Cymreig
- Nodiadau Natur
- O’r gegin gan Mirain Griffiths: Cacen Gaws Siocled Gwyn a Mafon
- Menter Moch gan Eiry Williams
- Lliwio’r Nadolig: llun arbennig i’w liwio gan Lizzie Spikes i’r plant
- Yr Ystafell ddianc – dod i wybod mwy am y fenter ym Mhonterwyd!
- Croesair
Dyddiad Cau Cwis Nadoligaidd a’r llun lliwio i blant yw’r 22 Rhagfyr felly prynwch eich copi mor gynted â phosib!
Bendigedig yw gweld tipyn o luniau gweithgareddau’r ffermwyr ifanc yn y rhifyn yma. Mudiad hynod bwysig yn ardal Y DDOLEN i bobl ifanc cefn gwlad.
Mwynhewch y darllen.