Y DDOLEN mis Medi

Darllenwch hanesion diweddaraf ein milltir sgwâr

Enfys Medi
gan Enfys Medi
Clawr_Medi

Ydi chi’n adnabod yr ymwelydd arbennig a Llanfihangel?

Mae rhifyn mis Medi Y DDOLEN wedi cyrraedd y siopau. Edrychwch allan amdano yn eich siop leol.

  • Newyddion a lluniau o’r pentrefi
  • Nodiadau Natur
  • Aros i Feddwl
  • Cornel y Beirdd
  • Croesair
  • Cerdyn Post o Auckland, Seland Newydd
  • Cyfweliad gydag Wyn Mason, awdur Gwlad yr Asyn
  • Tybed ble mae hoff le golygyddion y mis yng Nghymru?
  • Fy ngwaith i gan Elin Guest, Capel Seion
  • Straeon Gwerin O’r Archif
  • Menter Moch CFfI Cymru gan Dylan Phillips

Rydym yn falch o gynnal digwyddiad yfory yn Llanilar fel rhan o ŵyl fro Bro360. Dewch draw i’r Hen Ysgol rhwng 2 a 4pm. Gallwch fynd ar daith gerdded tua 2 filltir o hyd ac mae posau i’w cwblhau ar hyd y daith. Gwobrau i’r enillwyr. Mae’r daith yn addas i’r teulu cyfan a rhywbeth i bob oedran gadw llygad allan amdano! 

Dewch i fwynhau paned, cacen a chlonc gyda ni. Mi fyddwn yn darparu stolion tu allan a thu fewn, ble bynnag fyddwch chi’n teimlo’n gyfforddus i eistedd ac ymuno yn y digwyddiad.

Edrychwn ymlaen at gael eich cwmni yfory.