Mae’r tridiau diwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i ni fel teulu, wrth i ni wylio un o gŵn defaid Dewi Jenkins yn cael ei gwerthu am bris anghredadwy yn arwerthiant Farmers Marts Dolgellau. Penderfynodd Dewi werthu ei ast ddefaid Border Collie 11 mis oed, Kim ymhlith 125 o gŵn eraill yn yr arwerthiant ar-lein yn dilyn tipyn o lwyddiant llynedd. Felly, dros y mis diwethaf aeth ati i hyfforddi Kim i weithio gyda defaid a gwartheg, ac erbyn hyn, gan ei bod mor hawdd i’w thrin ac yn dysgu’n gyflym, gall Kim wneud unrhyw waith ar y fferm. Caefelin Clem yw ei thad, sef ci Ross Games, a Graylees Dollar yw ei mam, sef ast a hyfforddwyd gan Dewi a’i gwerthu i Frank Hickson ddwy flynedd yn ôl. Prynodd Dewi Kim gan Mr Hickson pan oedd hi’n wyth wythnos oed.
Wedi oriau’n hyfforddi Kim, bu Dewi wrthi’n ei ffilmio’n gweithio er mwyn uwchlwytho’r fideo ar wefan yr arwerthiant, i ddangos ei photensial i’r prynwyr. Dyma un o fanteision cynnal arwerthiant ar-lein yn hytrach nac un draddodiadol, gan fod modd dangos y cŵn yn gweithio ar eu gorau mewn amryw o sefyllfaoedd. Farmers Marts Dolgellau oedd y cyntaf i gynnal arwerthiant o’r fath, a hynny ym Mai 2020 o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19. Gan fod hon yn arwerthiant arloesol, ni fedrai unrhyw un ragweld os byddai’n llwyddiant neu pheidio, ond mentrodd Dewi ac fe gofrestrodd Jan i gael ei gwerthu. Penderfyniad doeth iawn gan iddi dderbyn 217 o gynigion, cyn i brynwr o Ffrainc ei phrynu am bris uchaf yr arwerthiant, sef £12,500!
Dyma ddechrau ar lwyddiant Dewi yn yr arwerthiannau ar-lein- aeth ati i werthu Mal am £12,800 a Peg am £8200 yn arwerthiannau Dolgellau, a Roy am £8800 a Clwyd Bill am £7800 yn arwerthiannau Skipton. Ni ellir anghofio am Jet chwaith, a dorrodd record byd am y ci neu ast ddrytaf o dan flwydd oed, a hynny yn arwerthiant Skipton yng Ngorffennaf 2020 am £12,000.
Roedd disgwyl i Kim werthu am bris da felly, ond ni ddychmygodd yr un ohonom y byddai’n gwerthu am bris anhygoel o £27,100! Cynhaliwyd yr arwerthiant dros dri diwrnod (o’r 1af i’r 3ydd o Chwefror), ac ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, roedd yr ast werth £16,800 gan chwalu record bersonol Dewi, yn ogystal â’r record byd am y ci neu ast ddrytaf o dan flwydd oed. Bu’r ail ddiwrnod yn eithaf tawel, ond erbyn y trydydd bore, roedd cynnig o £19,600 ar Kim, a chlywodd Dewi fod prynwyr o’r Alban ac UDA wedi bod yn cynnig amdani! Cododd y cynnig hwn i £21,000 erbyn 5yh, ac erbyn hyn dim ond hanner awr oedd ar ôl o’r arwerthiant.
Dechreuodd y cynigion danio yn y munudau olaf hyn, gyda rhai yn cynnig cwpwl o gannoedd ychwanegol, tra bod eraill yn cynnig mil ar ben y cynnig blaenorol. Yn y diwedd, E Vaughan o Newcastle, Swydd Stafford sicrhaodd Kim am bris rhyfeddol o £27,100! Mae’n rhaid bod Mr Vaughan wedi dotio ar Kim, ar ôl iddo fynd i’w gweld yn gweithio adref ychydig ddiwrnodau cyn yr arwerthiant. Cipia Kim y teitl am ast ddefaid ddrytaf y byd oddi wrth Henna, a werthwyd gan Kevin Evans am £20,000, yn arwerthiant ar-lein Skipton yn Hydref 2020. Pwy a feddyliau y byddem yn gweld y fath bris mewn arwerthiant ar lein. Tybed a oes dyfodol i arwerthiannau traddodiadol bellach ar ôl llwyddiant yr arwerthiannau ar-lein?
Llongyfarchiadau gwresog i ti, Dewi. Edrychwn ymlaen at gael dathlu pan fo’n bosib, a chofia- ti sy’n talu!