Gêm Ddarbi Canolbarth Cymru

Aberystwyth 2 – 4 Y Drenewydd 10/12/2021

gan Gruffudd Huw
DSC_0308

Rhys Davies – sgoriwr ail gôl Aber yn cymryd cic rydd.

Wedi gêm agos yn erbyn y pencampwyr, Cei Connah, roedd rhaid i Aber godi ei gêm unwaith eto ar gyfer darbi Canolbarth Cymru yn erbyn Y Drenewydd. Gyda’r ymwelwyr yn drydydd yn y gynghrair, dyma gêm anodd arall i Aber.

Gwelwyd dechrau cyffrous iawn i’r gêm gyda’r ymwelwyr yn sgorio ar ôl pedair munud. Collodd Aber y bêl yng nghanol y cae. Rhedodd Davies heibio llinell amddiffynnol Aber cyn pasio’r bêl ar draws i Rushton i sgorio’n hawdd i’r gôl hanner gwag. Roedd y bêl yn gwibio o un pen i’r llall. Munud yn ddiweddarach cafodd Aber gyfle gwych i ddod yn gyfartal wedi foli Matty Jones, o ymyl y cwrt, daro’r postyn.

Parhaodd gwallgofrwydd y gêm yn yr 20 munud cyntaf. Cafodd Jonathan Evans gyfle euraidd wedi 17 munud. Chwaraeodd Rimmer bas hir i Jon Owen gyda’r ymosodwr yn rheoli gyda’i frest cyn codi’r bêl yn grefftus dros yr amddiffynnwr i Jonathan Evans. Ergydiodd Evans gyda thu allan ei droed chwith ond ymatebodd Dave Jones yn y gôl yn gyflym i arbed yr ymwelwyr.

Bron yn syth roedd y bêl yn y rhwyd pen arall y cae wedi’r ymwelwyr wrthymosod i ddyblu’u mantais. Ciciwyd y bêl yn hir o ganol y cae ond fe adawyd y bêl i adlamu gan amddiffyn Aber. Gwelwyd chwarae taclus gan Williams i’r Drenewydd i alluogi Rushton i rwydo’i ail gôl.

Roedd Mwandwe, asgellwr y Drenewydd, yn ben tost i Aber gyda’i gyflymdra. Enillodd gic rydd i’w dîm ond arbedodd Zabret yn dda wedi i’r ymgais wreiddiol gael ei rwystro gan y wal. Wedi 22 munud bu bron iddo sgorio ei hun gan ergydio’r bêl i ochr allanol y rhwyd wedi rhediad chwim.

Bu bron i’r Drenewydd sgorio unwaith eto wedi 31 munud wrth i Rushton ruthro i mewn i’r cwrt. Yn ffodus i Aber, daeth Jack Rimmer i’r adwy gyda thacl arwrol i atal Rushton rhag ergydio. Yn anffodus, anafodd Rimmer ei hun yn y dacl a bu rhaid iddo adael y cae. Tipyn o golled gan mae ef oedd  chwaraewr gorau Aber.

Gyda’r hanner yn dod i ben, roedd hi’n amlwg fod y Drenewydd wedi manteisio ar eu cyfleoedd ac wedi creu defnydd da o chwarae mewn i’r gwynt wrth iddynt ymosod yn gyflym. Er hyn, roedd Aber yn sicr yn dal yn y gêm.

Gwobrwywyd ymdrechion Aber yn gynnar yn yr ail hanner wedi 51 munud o chwarae. Sgoriodd Sam Phillips wedi cic hir gan Louis Bradford gyda’r gwynt cryf yn creu trafferthion i’r amddiffynwyr unwaith eto. Methodd golwr y Drenewydd i glirio gan basio’r bêl yn syth i Phillips. Ergydiodd Phillips o ymyl y cwrt i mewn i’r gôl wag. Yn dilyn y gôl cafodd Aber eu cyfnod gorau o bwyso ond ….

Yn anffodus i Aber, roedd y Drenewydd yn amddiffyn yn dda ac yn gwrthymosod yn beryglus. Wedi 67 munud, sgoriodd Rushton ei drydedd cyn i Davies sgorio’r pedwerydd i’r ymwelwyr wedi 76 munud a chwalu gobeithion Aber.

Sgoriodd Rhys Davies gôl gysur i Aber wedi 88 munud yn dilyn croesiad perffaith o gic gornel gan Matty Jones. Neidio uwchben yr amddiffynwyr i benio’n bwerus i gefn y rhwyd.

Ymweliad â Chaernarfon sy’n gwynebu Aber nos Wener nesaf cyn dwy gêm dyngedfennol yn erbyn Hwlffordd dros y ‘Dolig / Flwyddyn Newydd.