Dathlu wrth i bêl-droed ddychwelyd i Goedlan y Parc

Aberystwyth 2 – 1 Hwlffordd 09/03/2021

gan Gruffudd Huw
Aberystwyth v Hwlffordd

Pethau’n dechrau poethi! Y dyfarnwr yn camu i mewn

Roedd pêl-droed Uwchgynghrair Cymru yn dychwelyd i Goedlan y Parc nos Fawrth am y tro cyntaf ers y 15 Rhagfyr! Gydag Aber newydd gael gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn diwethaf, roedd pethau’n edrych yn addawol. Er hyn, ni fyddai’n dasg hawdd curo Hwlffordd, a oedd yn 5ed yn y gynghrair a newydd arwyddo cyn-chwaraewr Cymru – Jazz Richards.

Ond, ar ddiwedd y gêm, doedd dim dadlau mai Aber oedd yr enillwyr haeddiannol gyda gôl hwyr i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers y 6 Hydref a rhediad o 10 gêm heb fuddugoliaeth. Roedd y triphwynt gwerthfawr a’r pwynt yng Nghaernarfon yn ddigon i godi Aber o waelod y tabl, er mawr ryddhad i’r cefnogwyr. Bellach maent uwchben Derwyddon Cefn a Fflint, wedi i’r ddau dîm golli eu gemau nos Fawrth.

Er y dechrau addawol gan Aber, daeth cyfle cynta’r gêm i’r ymwelwyr ar ôl 11 munud. Roedd hi’n ymdrech dda gan Danny Williams ar ôl derbyn pàs ar draws y cwrt cosbi, ond roedd Lee Jenkins wrth law i atal Hwlffordd rhag sgorio. Yn wir, dyma unig gyfle da Hwlffordd yn yr hanner cyntaf.

I Aber, cafodd Jamie Reed ddau gyfle cyn diwedd yr hanner i fanteisio ar eu goruchafiaeth, ond methodd guro Wojciech Gajda yn y gôl. Ond ni fyddai hyn yn rhwystro Reed yn yr ail hanner, ac yntau’n benderfynol o sgorio yn ei gêm gyntaf yng Nghoedlan y Parc ar ôl dychwelyd i’r clwb am y trydydd tro.

Daeth Aber allan wedi hanner amser yn llawn hyder. Dechreuodd y tîm cartref ymosod yn syth, gan fethu cyfle gwych ychydig funudau ar ôl yr egwyl. Er hyn, nid oedd angen aros yn hir tan y gôl gyntaf. Tafliad hir gan Jack Thorn i fewn i’r cwrt cosbi. Peniad ar draws gan Lee Jenkins tuag at yr hen ben Jamie Reed ar ymyl y cwrt. Crymanodd Reed y bêl yn berffaith i’r gornel chwith uchaf ar y foli – doedd dim gobaith i Gajda arbed y tro yma! Aber ar y blaen.

Er i Aber reoli mwyafrif helaeth o’r gêm, dechreuodd eu gafael lithro. Roedd Hwlffordd yn cadw’r bêl yn well ac yn mentro i hanner Aber yn amlach. Ond, er holl ymdrechion Hwlffordd, roedd amddiffyn Aber yn edrych yn gadarn gyda’r tîm cyfan yn cydweithio i gadw’r strwythur a chau’r llwybr tua’r gôl.

Ond gydag wyth munud yn weddill, trawodd Corey Shephard bêl hir a gobeithiol i gwrt cosbi Aber. Wrth geisio clirio, peniodd Louis Bradford druan y bêl ar draws y cwrt gan ddisgyn wrth draed Ben Fawcett. Saethodd Fawcett yn isel i gefn y rhwyd i ddod a Hwlffordd yn gyfartal. Roedd yna deimlad o déjà vu gan fod Aber wedi colli triphwynt yn hwyr yn erbyn Caernarfon ychydig ddyddiau ynghynt.

Er gwaethaf y siom, roedd Aber yn benderfynol o gipio’r triphwynt ac ymosod tan y diwedd. Arbedwyd ymdrech dda gan Jonathan Evans, ac arweiniodd at gic gornel. Gyda’r amser ar gyfer anafiadau bron ar ben, camodd Mathew Jones i’w chymryd. Anelwyd y cornel yn berffaith at y postyn agosaf â’r uchder perffaith i Louis Bradford benio’r bêl yn bwerus tua chornel gwaelod y gôl. Er i Gajda lwyddo i gael ei law at y bêl (oedd yn agos iawn i groesi’r llinell), adlamodd y bêl i Lee Jenkins ac fe beniodd y bêl rydd i’r rhwyd i wneud yn siŵr.

Buddugoliaeth enfawr felly i Aber, sydd yn rhoi mantais o ddau bwynt iddynt dros Dderwyddon Cefn a Fflint yn y frwydr i osgoi disgyn o’r Uwchgynghrair. Cafwyd perfformiadau nodedig gan y chwaraewyr newydd ac yn enwedig gan Harry Franklin a Jamie Reed, ond hefyd roedd yn berfformiad gwych fel tîm. Mae’n edrych yn llawer mwy gobeithiol am weddill y tymor, gan ddechrau gyda gêm oddi cartref yn erbyn y Barri dydd Sadwrn.

2 sylw

Angharad Wyn
Angharad Wyn

Gwych!!! Ysgrifennu da iawn!!

Mae’r sylwadau wedi cau.