Dathlu yn ‘Aberdashery’

Enwebiad yng ngwobrau crefft a 4 mlynedd ar agor 

Enfys Medi
gan Enfys Medi
242227844_246646857386929

Dathlu penblwydd Aberdashery

241914898_592537535106679

Y perchennog, Jennifer

Welsoch chi’r balŵns tu allan i Aberdashery benwythnos diwethaf? Roedd Jennifer yn dathlu 4 mlynedd ers cymryd drosodd yr awenau yn y siop. Dyma ofyn rhai cwestiynau iddi ar ôl gweld y newyddion fod y siop wedi ei enwebu yng ngwobrau crefft 2021.

Pryd gymeroch chi’r awenau yn Aberdashery?

Nes i gymryd drosodd yn 2017. Sylwais fod Jane yn gwerthu’r busnes ym mis Ionawr ac roedd gen i ddiddordeb ymgymryd â’r sialens. Roedd fy machgen bach dal adre a ddim yn dechrau’r ysgol am sawl mis felly doedd yr amseru ddim yn iawn. Caeodd Jane y busnes a chymrodd rhywun arall les y siop felly nid oedd ar gael bellach.

Yn ystod y cyfnod yna, aeth fy nheulu drwy gyfnod anodd. Collwyd un o fy nghefndryd yn sydyn iawn i gancr, oedd yn sioc enfawr. Clywais fod y siop ar gael eto oherwydd i’r person arall dynnu nôl. Y tro yma, penderfynais fynd amdani. Ar ôl profi colled sydyn sylweddolais fod bywyd yn rhy fyr a chymrais siawns gan ail agor Aberdashery o’r diwedd ym Medi 2017!

Beth wnaeth eich denu chi i’r busnes?

Dwi wastad wedi mwynau gwnïo a phan roedd fy mhlant yn fach roeddwn yn gweithio o adre fel gwniyddes. Mae wedi bod yn freuddwyd gen i erioed agor siop ddefnydd a chael yr holl amrywiaeth o ddefnydd wrth law i’w troi yn ddillad hardd. Mae’n rhywbeth dwi wedi teimlo’n angerddol amdano o oedran ifanc.

Sut rydych yn mwynhau rhedeg y busnes?

Dwi wirioneddol yn caru rhedeg y busnes a chael cwrdd â phobl o bob cefndir sy’n dod i ymweld â’r siop a gweld eu creadigaethau yn defnyddio’r defnydd maent wedi dewis oddi ar y silffoedd. Mae wedi bod yn waith caled cyrraedd lle dwi heddiw yn enwedig dros y ddwy flynedd diwethaf ac yn bendant mae ’na sialensiau, er enghraifft rhedeg busnes gyda phlant ond dwi’n dechrau teimlo yn gryfach nawr ar ôl wynebu sawl rhwystr ar hyd y ffordd.

Beth sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf i chi ers agor?

Mae gweld fy musnes yn tyfu wedi bod yn anhygoel ac mae poblogrwydd y siop wedi gwireddu breuddwyd. Dwi’n caru’r faith fod pobl o bell ac agos eisiau ymweld ag Aberdashery oherwydd yr amrywiaeth mawr iawn o ddewis sydd yma.

Llongyfarchiadau ar gael eich enwebu ar restr fer gwobrau crefftau 2021 i’r ‘Siop Annibynnol orau yng Nghymru.

Sut oeddech chi’n teimlo o glywed y newyddion?

Diolch. Roeddwn wrth fy modd i dderbyn y newyddion. Mae mor braf teimlo fod pobl yn gwerthfawrogi fy ngwaith caled, yn enwedig ar ôl brwydro’n galed i oroesi yn ystod y pandemig. Mae cefnogaeth fy nghwsmeriaid wedi bod yn anhygoel!

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae gen i lawer o syniadau ar sut i ehangu’r busnes. Mi fyswn i wrth fy modd yn creu hwb ffantastig i bobl allu archwilio eu sgiliau gwnïo a dysgu technegau newydd. Agwedd greiddiol o grefftio yw cefnogi creadigrwydd pobl a lles meddyliol a chymdeithasol. Hoffwn gefnogi hynny, felly byddai addysgu yn flaenoriaeth.

Hoffwn hefyd gynyddu fy nghasgliad o ddefnydd ac adnoddau crefftio oherwydd mae creu dewis yn bwysig iawn i mi ac yn rhywbeth mae fy nghwsmeriaid gwir yn gwerthfawrogi.