Darlithydd o Aber yw Cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru

Cathryn Charnell-White yn cael ei dewis fel Cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru

Dr Cathryn Charnell-White yw Cadeirydd newydd Llenyddiaeth Cymru.

Yn ystod cyfarfod Llenyddiaeth Cymru ar ddydd Iau 20 Mai 2021, etholwyd Cathryn Charnell-White yn unfrydol i olynu Kate North fel Cadeirydd Bwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru.

Pwy yw Cathryn?

Fel cyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, gwnaeth Cathryn ei hymchwil, darlithio cyn dod yn Bennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar hunaniaeth Gymreig, merched a barddoniaeth, a llenyddiaeth y tywydd yng Nghymru’r Cyfnod Modern Cynnar. Cathryn oedd Pencampwr Cydraddoleb ac Amrywiaeth yr Adran (2018–20) a bu’n eistedd ar y pwyllgor canolog ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rhan o gyfraniad Cathryn at lenyddiaeth merched yw ei bod ar Fwrdd Rheoli Gwasg Honno ers

Bu’n Aelod o’r Cyngor i Gyngor Llyfrau Cymru hefyd. Mae’n gwasanaethu ar Fwrdd Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru ers Tachwedd 2019.

Mae’n fam i blentyn ac wedi setlo yn ardal Penuwch.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Rydym yn hynod falch o ethol Cathryn Charnell-White fel ein Cadeirydd newydd. Mae cyfraniadau Cathryn yn ystod ei thymor presennol wedi bod yn hynod werthfawr, a bydd yn arwain y sefydliad trwy ei bennod nesaf gyda hyder, ymroddiad a gwerthoedd cadarn.”

Meddai Cathryn Charnell-White:

“Anrhydedd o’r mwyaf fydd cael cadeirio Bwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru ar drothwy degawd newydd yn ein hanes. Edrychaf ymlaen at gael arwain trafodaethau ar ein cynllun strategol newydd, ac yn benodol at gael gyrru prosiectau sy’n rhoi sylw i les a thangynrychiolaeth, ac at gydweithio’n agos â phartneriaid yn y sector i liniaru effeithiau COVID-19 ar ein diwylliant llenyddol.”

Daw penodiad Cathryn fel Cadeirydd wrth i’r sefydliad nodi 10 mlynedd fel y cwmni cenedlaethol dros ddatblygiad llenyddiaeth.

Mae Bwrdd Rheoli’r sefydliad yn cynnwys 12 o Gyfarwyddwyr, nifer ohonynt yn gyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth gan gynnwys Elizabeth George a Jacob Ellis.