Cyfrol Pantyfedwen – cyfle i danysgrifio!

Cyhoeddi cyfrol yn rhoi hanes Syr David James ac Ymddiriedolaeth Pantyfedwen

gan Gwenan Creunant

Syr DJ James: Ei Fywyd a’i Ddylanwad

Cyn diwedd 2021, bydd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cyhoeddi cyfrol arbennig dan y teitl Syr DJ James: Ei Fywyd a’i Ddylanwad.  Cyfrol yw hon sy’n croniclo hanes Syr David James, sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth, ac yn rhannu ychydig o wybodaeth am y gwaddol a adawodd ef i Gymru a’i phobl, gwaddol sy’n parhau i gael ei dosbarthu mewn grantiau i bobl Cymru’n flynyddol. Gŵr a’i wreiddiau’n ddwfn yng Ngheredigion, ac yn ardal Pontrhydfendigaid yn benodol, oedd David James, a bu’r sir hon a Chymru yn agos iawn at ei galon trwy gydol ei fywyd. Awdur y gyfrol yw Richard Morgan, fu’n Ysgrifennydd Gweithredol yr Ymddiriedolaeth am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac a fu’n ddiwyd iawn dros y blynyddoedd diwethaf yn casglu gwybodaeth a lluniau ac ysgrifennu’r hanes.

Ar hyn o bryd, mae yna  gyfle arbennig i danysgrifio i’r gyfrol (pris £18 yn cynnwys postio), a byddwn yn cynnwys enwau’r holl danysgrifwyr yn y gyfrol a brynir ganddynt. Bydd y gyfrol yn cael ei chyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg. Os hoffech danysgrifio, gofynnwn i chi gysylltu â Swyddfa Pantyfedwen cyn gynted â phosibl, ac erbyn 16 Gorffennaf fan bellaf.

Ffôn:     01970 612806
E-bost:  post@jamespantyfedwen.cymru