Dydd Sul, Mai 30ain, gosodwyd her i staff ysgolion Pen-llwyn a Phenrhyn-coch i gerdded 50 millltir mewn diwrnod, gan godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. A do, wir – fe gyflawnwyd yr her gan dri o’r staff, sef Bryn Shepherd, Becca Louise a Steffan Davies. Yn ogystal â hynny fe gerddais i ac Emma Parr Davies 29 milltir.
Yn ystod y daith cafwyd cwmni ambell ffrind er mwyn cadw’r momentwm i fynd (credwch fi, roedd angen gair o gysur weithiau yn ystod y diwrnod)! Ta waeth, nod y diwrnod oedd rhoi cychwyn i her yr hanner tymor, oherwydd gosodwyd her i ddisgyblion y ddwy ysgol i gerdded 16 neu 35 milltir, ac iddyn nhw gyflawni’r milltiroedd yn ystod yr wythnos drwy eu logio ar ap Strava.
Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy i ni fel criw o athrawon. Dechreuon ni drwy gerdded o Gapel Bangor i dref Aberystwyth. Yna, ’nôl i gyfeiriad Pontarfynach, cyn ymlwybro i lawr am Lanfihangel-y-Creuddyn. Draw wedyn i Lanilar, ar hyd y llwybr cerdded i Rydyfelin, ac i’r Prom. Cerdded i fyny Consti ac yna i lawr i Glarach – ar hyd y ffordd i Bow Street, cyn ymlwybro’n araf i orffen ym Mhenrhyn-coch!
Cwpwl o wythnosau cyn yr her, meddylion ni y byddai’n well paratoi’r traed a’r coesau. Felly, aethon ni am dro ar rai o’r nosweithiau braf a gafwyd yn ddiweddar. Saith milltir oedd y pellaf gerddais i bryd hynny, felly sioc ar yr ochor orau oedd cyflawni 29 milltir!
Cychwynnwyd y daith am 3yb, ac ar ôl diwrnod braf a chaled o gerdded, gorffennwyd tua 8 yh. Dyna deimlad braf oedd tynnu’r trenyrs i ffwrdd! Roedd y gefnogaeth ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y dydd a’r diwrnodau ar ôl y daith yn anghygoel. Fe godwyd tua £2,300, felly rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am y gefnogaeth!
Mae achos Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig iawn i ni i gyd mewn cymuned wledig, ac roedden ni’n falch iawn o allu cyflawni her o’r fath! Edrychwch allan am yr her nesaf!