Cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch ar restr fer gwobr bwysig

Rhestr fer Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn yn cynnwys cwrs cynhyrchu cyfryngau

gan Elin Mair Mabbutt

Mae cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn yn ‘THE Awards’ eleni.

Caiff ‘THE Awards’ eu cydnabod yn eang fel Oscars addysg uwch, ac maen nhw’n denu cannoedd o geisiadau bob blwyddyn. Maen nhw’n cynnig cyfle i arddangos talent, ymroddiad ac arloesedd unigolion a thimau ar draws pob agwedd ar fywyd prifysgol. gan ddangos llawer o resymau pam mae ein sefydliadau’n parhau i ffynnu.

Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn gynllun unigryw sy’n dwyn ynghyd Adrannau Cyfrifiadureg ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, a thrwy gydol cyfnod pandemig Covid-19 mae wedi canolbwyntio ar uwchsgilio diwydiannau creadigol Cymru.

Hyd yma, mae dros 160 o weithwyr wedi cofrestru ac mae’r Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ar gyfer cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, wrth ei bodd gyda llwyddiant y cynllun:

“Rwy’n gwbl ymwybodol o’r ymdrech aruthrol a wnaed i sefydlu’r MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, yn enwedig yn ystod cyfnod mor heriol, ac mae bod ar restr fer y wobr bwysig hon yn gyffrous iawn.

“Roedd nifer o sefydliadau a chwmnïau cyfryngau wedi tynnu sylw at yr angen i uwchsgilio’u gweithlu i ateb y galw cynyddol am gynnwys digidol creadigol ar draws pob platfform. Llwyddodd Prifysgol Aberystwyth i ymateb yn gyflym i’w hanghenion gyda’r cynllun amlddisgyblaethol unigryw hwn. Y nod yw gwella arloesedd a chynhyrchedd y diwydiant yn y diwydiannau creadigol trwy gyfnewid gwybodaeth.”

Gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, roedd yr holl fodiwlau ar y cwrs ar gael yn hyblyg ac am ddim i sefydliadau cymwys a’r hunangyflogedig sy’n gweithio yn y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Ychwanegodd yr Athro Jones,

“Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu manteision creu a chyfathrebu digidol. Wrth i’r byd fynd i gyfnod clo, daethom yn fwyfwy dibynnol ar ein dyfeisiau digidol at ddibenion gwaith a chymdeithasu, tuedd sydd yn debygol o barhau.”

Datgelir yr enillwyr mewn seremoni wyneb yn wyneb yn Llundain ar 25 Tachwedd 2021.

I gael mwy o wybodaeth am yr MSc Cynhyrchu Cyfryngau Uwch ac i gofrestru’ch diddordeb, ewch i https://amp.aber.ac.uk/cy/hafan/