Cwis Enwi’r Enwogion – Cylch Meithrin Llangwyryfon

Cwis gan Gylch Meithrin Llangwyryfon

Bethan Llŷr Jenkins
gan Bethan Llŷr Jenkins

Mae wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i Gylch Meithrin Llangwyryfon! Roeddem yn bwriadu cael sawl digwyddiad dros y flwyddyn i ddathlu ein penblwydd yn 40 oed! Yn sgil Covid19, nid yw hyn wedi bod yn bosib, ond er gwaethaf popeth mae’n rhaid i ni barhau ar agor. Felly, mae codi arian dal yn angenrheidiol, a rhaid addasu. Llynedd, wnaethom ni daith cerdded, lle roedd gan bob plentyn, ag aelodau o staff, darged i gerdded 40 milltir mewn 40 diwrnod. Tymor hyn, ’dyn ni wedi penderfyny creu cwis ‘Enwi’r Enwogion’ sy’n gwisgo mygydau. Mae yna wobr ariannol i’r enillydd. Os hoffech gymryd rhan yn y cwis, mae yna linc i’n tudalen ‘Givey’ isod. Unwaith rydych wedi cyfrannu, e-bostiwch cylchmeithrinllangwyryfon@gmail.com, ac fe wnawn ni e-bostio copi o’r cwis i chi. Y dyddiad cau i gystadlu yw 30/4/2021.

https://www.givey.com/famousfacesquiz