Mae Keira Husting a Tom Speedy wedi creu cronfa i godi arian i’r teulu a gollodd eu cartref mewn ffrwydriaid mewn cegin yng Nghlarach. Mae modd i chi gyfrannu drwy glicio yma.
Ar ddydd Sadwrn y 12fed Mehefin 2021, aeth Sharna i’r gegin, arogleuodd nwy, yna ffrwydrodd y tŷ. Gan ei bod yn y gegin, effeithiodd y ffrwydrad yn fawr arni, a chafodd ei chludo mewn awyren i Abertawe, lle mae gofal ar hyn o bryd yn yr uned losgiadau.
Yn ffodus, roedd Jessica (16 mlwydd oed) yn y gwaith a dihangodd Laura (17 mlwydd oed) trwy’r rwbel heb anaf gan fod yr ystafelloedd cysgu ar y llawr gwaelod. Yn anffodus, dinistriwyd y tŷ, ynghyd â’u holl eiddo. Does ganddynt ddim ond y dillad yr oeddent yn eu gwisgo ar y pryd ac wedi colli popeth. Mae ymchwiliadau ar y gweill i sefydlu’r achos.
Dywedodd ei ffrind Keira sydd yn rhoi cartref i’r teulu am y tro
Rwy’n sefydlu’r gronfa yma i geisio eu helpu i ailadeiladu eu bywydau, ac i gael rhai eiddo yn lle’r rhai a gollwyd (lle gellir eu cyfnewid, ac mae llawer o eitemau personol hollol amhosibl i’w ail-brynu). Helpwch gyda beth bynnag y gallwch chi, bydd hyd yn oed rhodd fach i’w helpu i gael yr hanfodion, gan leihau trawma’r digwyddiad erchyll yma.
Rydym i gyd yn ddiolchgar nad oedd cymaint yn waeth, ac am y gwasanaethau brys rhyfeddol a ddaeth i’w hachub!
Mae Sharna yn gwella yn yr ysbyty, ond parhau yn fregus.
Eto, mae modd i chi gyfrannu drwy glicio yma.