Doedd dim disgwyl gêm hawdd yn erbyn Caernarfon, gyda’r Cofis yn bedwerydd yn y Gynghrair. Er gwaethaf hyn, roedd Aber yn gobeithio herio’r ymwelwyr gyda charfan gref a Lee Jenkins yn dychwelyd i’r 11 dechreuol wedi anaf i gryfhau’r amddiffyn.
Er yr ymdrech lew, siom enfawr unwaith eto i Aber wrth iddynt golli o un gôl er nad oedd hyn yn adlewyrchiad teg o’r gêm. Brwydrodd y tîm tan y funud olaf ond yn anffodus yn gadael y gêm yn waglaw.
Aber gafodd y dechrau gorau i’r gêm. Wedi dim ond chwe munud o chwarae, llwyddodd Harry Franklin i dderbyn pas a sleifio tu ôl i’r amddiffyn. Yn anffodus i’r gŵr o Ogledd Iwerddon, llusgodd ei ymdrech yn llydan ond yn ffodus i amddiffyn cysglyd y Cofis.
Parhaodd y pwyso gan y tîm cartref gyda Raul Correia’n ddraenen gyson yn ystlys amddiffyn yr ymwelwyr. Roedd gallu Correia i ddal ei dir a chysgodi’r bêl wedi creu helynt yng nghwrt cosbi’r Cofis gydag Aber yn hawlio dwy gic o’r smotyn o fewn deg munud i’w gilydd. Yn anffodus, nid oedd y dyfarnwr yr un mor sicr.
Wrth i’r gêm ymlwybro ymlaen, deffrodd yr ymwelwyr ond roedd Aber dal yn rheoli. Mawr oedd y syndod felly pan agorodd Caernarfon y sgorio ar ôl 17 munud. Doedd y sefyllfa ddim yn edrych yn beryglus pan basiodd Bradford y bêl i’r capten, Thorne, ond yn sydyn daeth Robert Hughes i’r golwg gan ei daclo. Pasiodd Hughes y bêl i gornel dde’r cwrt cosbi ble roedd “Cofi Messi” (Darren Thomas) yn aros. Rhedodd tuag at Zabret yn y gôl cyn lansio’r bêl i gornel dde uchaf y rhwyd.
Tawelodd y gêm ar ôl y gôl gyda Chaernarfon yn amddiffyn yn ddwfn. Ni welwyd llawer o gyfleoedd werth chweil i’r naill dîm heblaw am ergyd llydan Jamie Veale o 25 llath. Roedd Correia dal i gorddi’r dyfroedd yn y cwrt gan ymdrechu i ennill cic o’r smotyn ar ôl 41 munud. Yn anffodus, ymdrechodd ychydig yn rhy galed, ac fe dderbyniodd gerdyn melyn am ddeifio. Ar ddiwedd yr hanner daeth Aber o fewn trwch blewyn i sgorio gyda’r bêl yn taro’r traws ac adlamu oddi ar y llinell.
Daeth Aber allan o’r ‘stafelloedd newid yn gynnar ar gyfer yr ail hanner ac yn barod ar gyfer y frwydr. Roedd yr ymwelwyr hefyd yn benderfynol o gymryd y tri phwynt. Daeth cyfle’n syth bin i Aber wrth i Thorne ergydio’n llydan o 20 llath wrth i Aber barhau i gael rhan fwyaf o’r meddiant. Ond roedd Caernarfon yn dal yn beryglus wrth wrthymosod neu o giciau gosod. Arbedodd Zabret beniad gan “Cofi Messi” ac ar ôl 59 munud daeth un o gyfleoedd gorau’ gêm i Gaernarfon wrth i Robert Hughes lywio pas i Mike Hayes ond fe ergydiodd yn erbyn y trawsbren.
Er gwaethaf holl feddiant Aber, ni welwyd llawer o gyfleoedd clir ond fe gafwyd sawl hanner cyfle. Ar y llaw arall, roedd Caernarfon dal i gael ambell gyfle gwych drwy wrthymosod cywrain. Yn lwcus i’r tîm cartref, roedd Zabret fel octopws yn y gôl yn arbed gyda phob rhan o’i gorff. Ar ôl 70 munud o chwarae, arbedodd ergyd ffyrnig gan Hughes rhag mynd i’r gornel chwith uchaf y rhwyd. Dim ond tair munud yn ddiweddarach, arbedodd ergyd gan Mike Hayes mewn sefyllfa 1-ar-1.
Bu bron iawn i Aber ddod yn gyfartal ar ôl tafliad hir gan Thorne o’r asgell dde. Hedfanodd y bêl i mewn i’r cwrt gan adlamu o flaen Correia. Ergydiodd Correia ond yn anffodus, llusgodd y bêl yn llydan unwaith eto.
Roedd Aber dal i bwyso ymhell mewn i’r deg munud olaf. Daeth croesiad ar ôl croesiad i mewn i gwrt cosbi’r ymwelwyr ond roedd ymdrechion Aber yn cael eu harbed, yn mynd yn llydan neu’n mynd dros y trawsbren. Mae’n rhaid dweud fod Aber yn hynod o anlwcus i fethu sgorio yn y cyfnod yma.
Yn y funud olaf, enillwyd cic rydd ar yr asgell dde a gyda ddim byd i’w golli, ymunodd Zabret a gweddill y tîm yn y cwrt. Cliriwyd y bêl ac fe gollodd Aber eu cyfle olaf. Roedd yr ymwelwyr ar fin sgorio’u hail gôl gyda’r gôl yn wag yn absenoldeb Zabret, ond ymdrechodd y golwr o Slofenia i ddod nôl i amddiffyn a pherfformio tacl berffaith ar yr ystlys yn ddwfn yn hanner Aber.
Canlyniad anodd ei dderbyn i Aber, ond mae’n rhaid aros yn bositif ac edrych ymlaen at gêm dyngedfennol yn erbyn y Derwyddon Cefn oddi cartref nos Fercher nesaf.