Mae 8 Mawrth wedi cael ei glustnodi yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched gan y Cenhedloedd Unedig ers 1977. Thema’r diwrnod eleni yw “Merched yn arwain: gwireddu dyfodol cyfartal yng nghyfnod Covid-19”. Dyma ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod – cyfle i ddangos parch a thegwch, a chydnabod bod yn rhaid i ni wynebu’r heriau a’r anghydraddoldeb sy’n dal i fodoli heddiw.
Dathlu bywydau menywod yw hanfod cylchgrawn Cara, a rhoi llais i’r amrywiaeth anhygoel o ferched yng Nghymru o bob cefndir, hil, crefydd ac oed, boed hynny ym myd y celfyddydau, busnes, chwaraeon, gwleidyddiaeth, addysg, gwyddoniaeth neu mewn meysydd eraill.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae merched wedi bod yn y rheng flaen ar draws y byd, ac mae sawl un wedi ysbrydoli tîm Cara:
Y gyntaf yw Kamala Harris. Mae’n anodd credu ei bod hi wedi cymryd tan 2021 i fenyw gyrraedd safle mor uchel yng ngwleidyddiaeth UDA. A hithau’n fenyw ddu/De Asiaidd, mae hi’n symbol o’r hyn sy’n bosib trwy weithio’n galed.
Mae’r gwyddonydd o’r Almaen Dr Özlem Türeci yn rhan o’r tîm gŵr-a-gwraig sydd y tu ôl i gwmni BioNTech, sy’n gyfrifol am y brechlyn cyntaf yn y byd i gael ei gymeradwyo yn erbyn Covid-19. Mae hi felly wedi chwarae rhan allweddol wrth achub miliynau rhag marw o’r coronafeirws.
Jacinda Ardern – stori lwyddiant fwyaf y pandemig mewn blwyddyn heb lawer o lwyddiannau. Mae Prif Weinidog Seland Newydd wedi gweithredu’n gyflym ac yn effeithiol yn erbyn y feirws yn y wlad.
Ac yng Nghymru, mae dwy awdures yn arbennig wedi ein hysbrydoli. Trist iawn oedd clywed am farwolaeth Jan Morris, yr awdur a’r ysgrifennwr taith arloesol, yn 94 oed ddiwedd 2020, a hithau wedi gweld a chyflawni cymaint ar hyd ei hoes. Dynes o flaen ei hamser yn sicr. Awdures ifanc ar ddechrau ei gyrfa ysgrifennu yw Megan Angharad Hunter. Yn 2020 cyhoeddodd y nofel arbennig o ddyfeisgar tu ôl i’r awyr, sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg ac wedi cael canmoliaeth uchel iawn gan feirniaid a darllenwyr.
Ond rhaid i ni beidio anghofio bod sialensau i’w goresgyn a heriau i’w hwynebu o hyd, a bod gormes a thrais ac anghyfartaledd yn erbyn merched yn dal i fodoli. Beth am y Dywysoges Latifa, sy’n cael ei chadw’n garcharor yn erbyn ei hewyllys gan ei thad a’r teulu brenhinol yn Dwbái? Neu Britney Spears, y gantores bop, sy’n trio torri’n rhydd o hualau gormesol ei thad? Neu Breonna Taylor, dynes 26 oed a gafodd ei saethu yn ei chartref yn hollol ddirybudd a heb reswm gan dri heddwas croenwyn yn Kentucky? Mae hyn yn dangos ei bod hi’n dal yn hollbwysig clustnodi un diwrnod bob blwyddyn i bwysleisio’r angen am gyfartaledd, cymdeithas ddihiliaeth a thegwch i fenywod, ac i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Bydd rhifyn gwanwyn cylchgrawn Cara yn cael ei gyhoeddi ar 18 Mawrth.
Facebook, Instagram, Twitter: Cylchgrawn Cara
E-bost: cylchgrawncara@gmail.com
Gwefan: www.cara.cymru