Clwb Achub Bywyd Beistonna Aberystwyth – Offer Newydd

Nawdd gan Grochan Aur Bro Aberystwyth yn gymorth i achub bywydau

gan Jeremy Turner

Mae Clwb Achub Bywyd Beistonna Aberystwyth newydd gael offer newydd a brynwyd gyda chymorth gan Grochan Aur Bro Aberystwyth.

Mae’r Crochan Aur yn gynllun ariannu cymunedol newydd, a phenderfynodd aelodau’r gymuned, mewn cyfarfod ar-lein, pa geisiadau i’w cefnogi. Fe’i hariennir gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys Dafydd Llywelyn, Tai Wales and West Housing, Tai Barcud Housing a Chyngor Tref Aberystwyth.

Cyflwynwyd cais llwyddiannus y clwb gan ddau o aelodau ifanc y pwyllgor – Catrin Dafis a Misha Fox-Maderson. Defnyddiwyd y grant o £1000 i brynu tri bwrdd hyfforddi newydd fydd yn cael eu defnyddio gan yr aelodau 10–13 oed wrth iddynt ddechrau ar eu hyfforddiant fel achubwyr bywyd. Mae llawer o’r aelodau yn mynd ymlaen i weithio i’r RNLI fel achubwyr bywyd traeth gan roi gwasanaeth i’w cymuned.

Llwyddodd y clwb i barhau i hyfforddi y llynedd a gobeithir ailddechrau hyfforddi ar y môr ym mis Mai. Mae diogelwch, wrth gwrs, yn hollbwysig a bydd y clwb yn gweithredu o fewn canllawiau COVID. Cynhelir y sesiynau hyfforddi yn ddwyieithog, yn y Gymraeg a Saesneg, ac fe’u harweinir gan hyfforddwyr ac achubwyr bywyd traeth cymwysiedig.

Mae’r offer a ddefnyddir yn ddrud. Mae gan y clwb bolisi o brynu digon o offer i alluogi pawb i gymryd rhan heb orfod prynu eu hoffer eu hunain. Byddai swyddogion codi nawdd y clwb, Jeremy Turner a Charlotte Baxter, yn falch o glywed gan unrhyw un a hoffai roi cymorth ariannol i’r clwb.

Mae’r clwb wedi tyfu o ran aelodaeth yn ystod y deg mlynedd ddiwethaf ac mae rhestr aros ar hyn o bryd. Mae gwefan newydd y clwb www.aberystwythslsc.org (a gynlluniwyd gan Jo Hollowood o www.jhgdassociates.co.uk ac a adeiladwyd gan Adam Barrell o www.rheglobal.com) yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau’r clwb, sut i gynorthwyo yn ariannol neu fel arall, a sut i gymryd rhan.

Yn y llun, gyda’r byrddau newydd, mae: Heather Crump (Hyfforddwraig), Misha Fox-Maderson, Catrin Dafis, Erin Baxter, Charlie Baxter, PCSO Mary Weller (Pwyllgor Llywio Crochan Aur Bro Aberystwyth), Chris Ashman (Uwch-hyfforddwr).

Llun gan Rolant Dafis.