
Thema Patrwm.

Thema Macro

Thema Photograffydd Jeff Wall. Cyntaf.

Thema Melyn. Cydradd Cyntaf

Thema Adlewyrchiad. Cydradd cyntaf

Thema Lliw

Thema Ffotograffydd Stephen Shore

Thema Symudiad. Dad yn dal afal

Thema Ffotograffydd Ed Ruscha. Un o gyfres ddaeth yn gyntaf

Thema Ffordd Newydd Gymreig o Fyw
Yn yr amser tywyll, ansicr o dan glo, darganfyddais ychydig bach o heulwen trwy ymuno â grŵp Facebook o’r enw Clic Clic Corona a sefydlwyd gan ddau ffotograffydd, Betsan Haf Evans a Sioned Birchall.
Rwyf bob amser wedi bod yn greadigol ac â diddordeb mewn ffotograffiaeth felly gwelais hyn fel cyfle i ehangu fy ngwybodaeth a dysgu sgiliau newydd a hefyd i gwrdd â phobl o’r un anian.
Bob wythnos mae thema / her yn cael ei gosod ac rwy’n hoff iawn o amrywiaeth yr heriau. Mae rhai diddorol wedi bod am ffotograffwyr eiconig fel Ed Ruscha a Stephen Shore, dau artist nad oeddwn i’n gwybod llawer amdanynt nes i mi ymuno â’r grŵp.
Rwyf hefyd yn mwynhau edrych ar luniau aelodau eraill a’u dehongliad o’r gwahanol themâu sy’n ddiddorol iawn i mi. Mae’n gymuned braf lle mae pawb yn galonogol ac yn wirioneddol falch o bwy bynnag sy’n ennill.
Mae’r holl broses o ddod i fyny hefo syniadau ar gyfer pob her, i dderbyn canmoliaeth ac adborth arbennig ar fy ngwaith ac ennill 4 her, wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder ac mae wedi cyfrannu at helpu gyda fy iechyd meddwl trwy’r amser yma. Ni allaf ddiolch digon i Betsan a Sioned am ddechrau’r grŵp ysbrydoledig yma.