Clera

Perfformiad Byw gan Clera yn Llanilar

gan Betsan Llewelyn-Jones

Clera

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un ryfedd, a phrin iawn oedd y cyfle i ddod at ein gilydd, heb sôn am gael profi perfformiad byw, yn enwedig yn rhad ac am ddim, ac yn y Gymraeg!  Felly pan glywais fod ‘Clera‘ yn ymweld â Llanilar, un noson cyn y gwyliau, penderfynais y byddwn i â’r plant yn mynd lawr i’r pentre’ y noson honno!

Roedd hi’n noson braf, ac erbyn i ni gyrraedd, roedd perfformwyr ‘Clera‘ wedi hen ddechrau, ac fe ddilynon ni nhw ar eu taith drwy’r pentref.  Roedd hi’n braf gweld plant y pentref hefyd yn dilyn ac yn ymuno trwy ganu neu ddawnsio. Roedd hi’n gyfle da i’r plant gael clywed hen alawon Cymreig yn cael eu perfformio, ac fe lwyddodd ambell un o’r trigolion lleol i fanteisio ar y perfformiad byw o’u stepen drws!

Dyma beth oedd gan y plant i’w ddweud am y perfformiad:

“Fe wnes i fwynhau gwylio Clera yn y pentref, ac roedden nhw’n dawnsio’n dda iawn”

Cati – 8 oed

“Fe wnes i fwynhau dawnsio gyda fy ffrind wrth wylio Clera”

Beca – 6 oed 

 

“Roeddwn i wedi mwynhau gwrando ar y caneuon”

Guto – 4 oed

 

Felly diolch Arad Goch a ‘Clera‘ am ddod â dawns a chân nôl i’n bywydau!