YN FYW: Clera Ceredigion

Dyma blog byw o daith Arad Goch yn cyflwyno eich straeon chi yn eich ardal chi 

Arad Goch
gan Arad Goch

Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?

Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.

Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.

11:01

Diwrnod Perfformio!

Mae’r dydd wedi dod unwaith eto! ?

Ymunwch â ni ym Mhlascrug am 11 i gael gweld a gwrando ar hanes Ceredigion! ?

11:34

CROESO NÔL!

Wythnos arall o deithio Ceredigion gyda amrywiaeth o berfformiadau ar strydoedd y sir i ddiddanu unrhywun sydd o gwympas.

Felly, dyma’n lleoliadau ar gyfer yr wythnos nesaf!

Dydd Mawrth 29/06 – 11y.b – Plascrug Aberystwyth

Dydd Mawrth 29/06 – 5-7y.h – Penparcau

Dydd Mercher 30/06 – 10-11y.b – Penparcau

Dydd Mercher 30/06 – 12-3:30y.h – Pontarfynach

Dydd Iau 01/07 – 10-11:30y.b – Llanrhystud

Dydd Iau 01/07 – 12:30 – Penparcau

Dydd Gwener 02/07 – 2-4y.h – Penparcau

Dydd Gwener 02/07 – 4:30-6:30 – Promenade Aberystwyth

Dydd Sadwrn 03/07 – 11-1y.h – Aberaeron

Dydd Sadwrn 03/07 – 4y.h Rhydypennau

Dydd Sadwrn 03/07 – 5y.h – Sgwar Talybont

Ymunwch â ni ar ein taith!

15:34

DYNA’R DIWEDD!

Diolch Aberystwyth unwaith eto!

Ni wir wedi mwynhau crwydro a chlera o amgylch y dref dros y diwrnodau diwethaf.

Gobeithio cewch chi gyfle arall i’n gweld ni dros yr wythnosau nesaf!

14:19

SESIWN PRYNHAWN!

Amser i gychwyn y daith unwaith eto! ?

Byddwn ni’n perfformio o 2-4 felly dewch yn gyflym!

13:10

A dyna ddiwedd i berfformiad arall!


Fe fyddwn ni’n Clera unwaith eto yn Aberystwyth am 2 o’r gloch! ?

12:37

Ydych chi wedi ein gweld ni?

 Mae digonedd o bobl wedi bod yn crydro Aberystwyth heddi.

Ond ydych chi wedi gweld Arad Goch yn Clera?

10:26

DEWCH YN LLU!

Mae’r haul yn disgleirio a beth well i neud na dod i weld Clera! ☀️

Byddwn yn perfformio o amgylch strydoedd Aberystwyth o 11-1 heddi!

Dydd Gwener 26/07/2021

14:44

Diolch Aberystwyth!

Yn anffodus, na fyddwn ni nôl prynhawn yma fel trefnwyd oherydd y tywydd ☔️

Gobeithio fe fydd yr haul yn disgleirio yfory ac fe allwn ni perfformio yn Aberystwyth unwaith eto!

Dydd Gwener 25/07/2021

13:04

YDYCH CHI WEDI GWELD Y TREIC? ?

Pobl Aberystwyth! Ydych chi wedi gweld ein treic yn teithio strydoedd y dref?

Os ydych chi, anfonwch eich lluniau draw atom ni!

Dydd Gwener 25/07/2021

10:24

MAE’R DYDD WEDI DOD ?

Mae’r gwaith i gyd dros y misoedd diwethaf wedi cyrraedd y man cychwyn!

Dewch i weld ni’n perfformio eich straeon chi yn eich lleoliad chi yn Aberystwyth am 12yh!

Ydych chi am ddod? Os ydych, rhannwch eich lluniau gyda ni ar ein cyfryngau ac ar wefan BroAber360! ?

Dydd Gwener 25/07/2021