Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?
Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.
Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.
DIWRNOD I FYND
Diwrnod i fynd nes dechrau’r daith! ?
Fe fydd Clera yn Aberystwyth am 12-2 a 4.30-6 yfory!
Dewch i glywed eich straeon chi a hanes Ceredigion. Fe fyddwn ni’n canu, dawnsio ac adrodd cerddi i’ch ddiddanu chi!
CAST A CHRIW
Os nad ydych chi wedi clywed pwy sy’n rhan o’r gwaith, dyma’ch cyfle!
Mae’r criw yma wedi bod yn gweithio’n hynod o galed i baratoi gwaith sy’n cynrychioli pobl, hanes a thirwedd Ceredigion. A dyma nhw! ?
Jeremy Turner – Cyfarwyddwr
Lynwen Haf Roberts – Perfformiwr
Huw Blainey – Perfformiwr
Aaron William-Davies – Perfformiwr
Ffion Wyn Bowen – Perfformiwr
Llyr Edwards – Perfformiwr
Anni Dafydd – Perfformiwr
Eurig Salisbury – Bardd
Anna ap Robert – Coreograffydd
ABERYSTWYTH
Ble arall ond Aberystwyth gallwn ni ddechrau’r daith gyffrous yma.
Fe fyddwn ni’n ymweld â’r dref yma nifer o weithiau mewn gwahanol ardaloedd, ond yn gyntaf…
Dydd Gwener 25/06 – 12-2yh – Tref Aberystwyth
Dydd Gwener 25/06 – 4.30-6.30yh – Promenadę Aberystwyth
Dydd Sadwrn 26/06 – 11-1yh – Aberystwyth, Ffordd Ddewi, Buarth a Sgwâr Glyndwr
Dydd Sadwrn 26/06 – 2-4yh – Promenadę Aberystwyth a sgwâr Glyndwr
BLE YDYN NI’N MYND?!
Dros yr wythnosau nesaf pan fyddwn ni’n teithio fe fydd y wefan hon yn cael ei ddiweddaru. Fe fyddwch chi’n cael gweld yr holl luniau o’r perfformiadau ond hefyd, cael gwybod ble a phryd byddwn ni’n perfformio.
Gyda diolch i Sioned Medi Evans, fe fydd animeiddiadau yn cael ei greu fel eich bod chi’n gallu dilyn y daith drwy fideo!
Felly, y lleoliadau cyntaf byddwn yn perfformio yw…