Cipolwg i mewn i Archifdy Ceredigion –Digwyddiadau Wythnos Archwiliwch eich Archif

Mae wythnos archwiliwch eich archif yn ddigwyddiad blynyddol ac yn rhoi cyfle i Archifdai hyrwyddo eu gwasanaeth.  Eleni, mae’r wythnos yn cwympo rhwng yr 20fed a 28ain Tachwedd ac mae Archifdy Ceredigion yn cynnal nifer o sgyrsiau a sesiynau holi’r arbenigwr drwy blatfform Zoom . 

Archifdy Ceredigion
gan Archifdy Ceredigion

Sesiynau holi’r arbenigwr

Ydych chi eisiau dechrau gwneud peth gwaith ymchwil ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?  Neu efallai eich bod yn ymchwilydd profiadol ers blynyddoedd ond yn methu datrys problem ddyrys.  Mae gennym sesiynau ‘Holi’r Arbenigwr’ yn ystod wythnos Archwiliwch eich Archif lle y bydd modd i chi gael sgwrs 1:1 am 15 munud gydag Archifydd am unrhyw agwedd o hanes lleol neu deulu drwy Zoom.  Mae sesiynau Cymraeg a Saesneg ar gael:

Dydd Mercher, 24ain Tachwedd    Cymraeg

Dydd Gwener, 26ain Tachwedd     Saesneg

Sgyrsiau

‘Beth sydd yn y bocs’ – Darganfyddwch Archifdy Ceredigion Nos Fawrth, 23ain Tachwedd am 7 yr hwyr (Sgwrs drwy gyfrwng y Saesneg)

Golwg ar rai dogfennau a lluniau, hen a newydd, rhyfeddol a rhyfedd, bach a mawr, doniol ond yn bennaf, diddorol!

Cyfrinachau eich Cartref – Pwy sydd wedi bod yn byw yn eich tŷ? Prynhawn dydd Iau, 25ain Tachwedd am 2.30 yr hwyr (Sgwrs drwy gyfrwng y Gymraeg)

Cyflwyniad i rai o brif ffynonellau olrhain hanes tai yng Ngheredigion.

Stori Gwesty’r ‘Queens’, Aberystwyth – cartref gwreiddiol Archifdy Ceredigion.  Nos Iau, 25ain Tachwedd am 7 yr hwyr (Sgwrs drwy gyfrwng y Saesneg)

Wedi’i adeiladu yn yr 1860au yn sgil y cynnydd mewn twristiaeth yn Aberystwyth, roedd Gwesty’r Queens ar Marine Terrace yn adeilad amlwg yn y dref am dros 150 mlynedd. Cewch glywed am yr adeg y cafodd ei adeiladu, yr adeg pan oedd yn ei anterth fel gwesty a’r defnydd a wnaed ohono yn ystod y rhyfel ac wedyn.

I ymuno gyda ni e-bostiwch archives@ceredigion.gov.uk er mwyn derbyn dolen i’r cyfarfod Zoom perthnasol.

Croeso cynnes i bawb.