Ceredigion ar glawr

Cyhoeddwyd dwy gyfrol o farddoniaeth gyda chysylltiad â Cheredigion gan Barddas yn ddiweddar

gan Iestyn Hughes

Mae Ceredigion wedi cael sylw arbennig gan Gyhoeddiadau Barddas yn ddiweddar.

Blodeugerdd o 40 o gerddi yn ymwneud â Cheredigion a geir yn Rhwng Teifi Dyfi a’r don. Golygwyd y gyfrol gan y prifardd Idris Reynolds, ac mae’n cynnwys nifer helaeth o luniau gan Iestyn Hughes.

Gellir gwylio’r lansiad, a lywiwyd gan Iola Wyn, yma ar sianel YouTube Barddas.

Cyfrol o gerddi gan y prifardd Gwenallt Llwyd Ifan o Dal-y-bont yw DNA. Cafwyd cyfweliad hynod o ddiddorol rhwng Gwenallt a’r prifardd Dafydd Pritchard yn ystod lansiad rhithiol y llyfr.

Fe allwch wylio’r lansiad DNA yma.