Cered ar waith…ZOOOOOOM!!!!!!!!

Mae Cered yn parhau yn brysur yn hyrwyddo gweithgareddau Cymraeg

gan Rhodri Francis

Mae Cered dal yn gweithio!!!

Mewn ffyrdd gwahanol wrth gwrs – ond yr ydym yn parhau i weithredu a gwasanaethu yn y gymuned. Mae’r cyfnod hwn wedi agor ein llygaid ni i gyd i ddulliau newydd o gyfathrebu a chysylltu. Doedd y rhan fwyaf ohonom ddim yn gwybod beth oedd ystyr y gair Zoom nôl ym mis Mawrth pan ddechreuodd yr epidemig, ond nawr mae’n air cyfarwydd iawn i’r rhan fwyaf ohonom. Mae’r dechnoleg wedi bod yn fodd i gynnal pob math o weithgaredd – cyfarfodydd cymdeithasol, cyfarfodydd gwaith, ymarferion cerddorol, darlithoedd, disgos, gigs a pherfformiadau di-ri. Mae’r rhain oll yn weithgareddau sydd wedi caniatáu i CERED barhau i weithio gyda’r gymuned.

Blas bach o rai o ddigwyddiadau’r misoedd diwethaf.

Ers mis Mawrth, mae Cered a Menter Iaith Sir Benfro wedi bod yn trefnu rhaglen o weithgareddau ar-lein yn ddyddiol trwy dudalen Facebook “Cica Corona”.

Ceir amrywiaeth o weithgaredd – o gystadlaethau limrig a ffotograffiaeth i gwisys a sesiynau stori a chrefftau i blant a rhaglenni BYW ar Facebook yn trafod pynciau llosg.

Un o’r prif atyniadau fu Dywediad y Diwrnod sef gair neu ddywediad sy’n unigryw i Orllewin Cymru. Mae’r gweithgareddau hyn hefyd ar gael trwy dudalen Facebook Cered felly cofiwch hoffi tudalennau yma.

Mae rhaglen radio newydd sbon gan Cered a Radio Aber yn cael ei ddarlledu YN FYW ar Radio Aber POB bore Llun am 11am. Enw’r rhaglen yw ‘Cefn y Rhwyd’ sydd yn trafod canlyniadau’r pêl-droed dros benwythnos ac mae’na gwest yn dod mewn yn wythnosol I drafod pêl droed lleol, pêl droed cenedlaethol ar gêm biwtiffwl yn gyffredinol.

Mae staff CERED hefyd wedi bod yn brysur yn gweithio gyda chymuned Llandysul i sefydlu prosiect newydd gymunedol “Yr Ardd”. Y gobaith yw sefydlu gardd gymunedol yn y pentref a fydd yn cynnig pob math o gyfleoedd newydd i’r gymuned i wirfoddoli ac i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg wrth wneud hynny.

Gweithdai Cered-

  • Bore Coffi Zoom Penparcau yn cwrdd ar-lein pob bore Dydd Llun a Dydd Gwener am 10am. Croeso i bawb! Am fanylion cofnodi, cysylltwch â Rhodri ar Rhodri.francis@ceredigion.gov.uk
  • Gweithdy ‘Iwcadwli’ yn cwrdd pob nos Llun ar-lein . Am fanylion cofnodi cysylltwch â Steffan ar Steffan.rees@ceredigion.gov.uk
  • Gweithdy iwcalelis ardal Llandysul ar y cyd gydag ‘Arts4Wellbeing’ yn cwrdd bob bore dydd Mercher am 11yb. Am fanylion cysylltwch â Llinos ar Llinos.hallgarth@ceredigion.gov.uk
  • Rhaglen FYW Facebook ‘Cefn y Rhwyd’ gan Radio Aber a Cered pob bore dydd Llun am 11am
  • Yn FYW ar Facebook, Cica Corona yn cyflwyno’r rhaglen ‘Pwnc Llosg’ ar y dydd Mercher cyntaf a trydydd dydd Mercher pob mis

Gofalwch ar ôl eich hunain. Cofiwch  – os ydych chi angen cymorth neu gyngor i gynnal gweithgareddau Cymraeg o unrhyw fath, cysylltwch â ni am sgwrs ar cered@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch Rhodri Francis ar 07878071367