Cerddoriaeth fyw!

Joio arlwy’r Eisteddfod Gudd

Enfys Medi
gan Enfys Medi
20210731_143347

Band Pres Llanrheggub

20210731_193930

Mae wedi bod yn flwyddyn a hanner hir heb gyfleoedd i wrando cerddoriaeth fyw!

Ond ddoe, daeth casgliad gwych o fandiau Cymru i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ac roedd hi’n grêt cael eu gwrando yn chware’n fyw.

Niferoedd cyfyngedig o docynnau oedd ar gael ond roedd yna awyrgylch braf. Pwy feddylie y bydden i mor werthfawrogol erbyn hyn o gael eiste rownd bwrdd picnic yng nghanol pobl!!

Cafodd y cyfan ei ffrydio’n fyw hefyd i gynulleidfa ehangach.

Mae mwy o gerddoriaeth ar gael heddiw eto.

Diolch i’r Eisteddfod am arbrofi er mwyn cynnal momentwm yr Ŵyl.