Mis y Cerdded: o Dre’r Ddôl i Gwar Cwm Uchaf

Cerdded Cletwr

Catrin M S Davies
gan Catrin M S Davies
Hen Gapel Tre Ddôl
Llwybr i mewn i'r goedwig
Dilynwch yr arwydd
Coed a mwy o goed.
Llwybr uwchben y goedwig
Am olygfa
Gwar Cwm Uchaf
Troi i'r chwith
Llecynau hyfryd

Os ydych chi’n lico coed …. mae digon i chi fwynhau fan hyn a’r rheiny yn hen ddihenydd.

Mae’r wâc yma yn mynd â chi drwy hen goed derw hudolus cyn i chi ddringo uwch eu pennau a gweld holl ryfeddod aber afon Dyfi.

Mi gerddon ni hi ddechrau mis Mai a chael gweld defaid ac wyn yn y caeau, rhai o fuchesi gwartheg duon Cymreig gorau Cymru, clychau glas a golygfeydd ffantastig.  Felly dyma’r cyfarwyddiadau – hanner ohonyn nhw gen i a’r hanner arall o daflen Biosffer Dyfi – yma:

https://ff434530-7747-4340-b305-03c7ed5a8557.filesusr.com/ugd/f2889b_40592d0aa6264d328cea67e1632cc565.pdf

O Dre’r Ddôl i Gwar Cwm Uchaf ac yna yn ôl ar hyd y ffordd yw fy am dro i – ychydig yn wahanol i’r daflen ond ar ôl i chi wneud fy un i mi fyddwch chi am wneud y llall rwy’n siwr!  Ac mae map y daflen yn rhoi rhyw fath o syniad i chi o’r llwybrau.

Gan bod yr am dro yn mynd o Dre’r Ddôl ac yn ôl parciwch yn agos at Caffi Cletwr fel eich bod chi yn gallu cael paned a chacen ar ddiwedd eich taith!

1. O Cletwr ewch drwy’r pentre i gyfeiriad Tal-y-bont dros y bont ac at yr hen gapel. A troi i’r chwith wrth (cyn) y capel i ddilyn trac dynodedig.

Llun 1

Yn fuan, trowch i’r dde wrth dŷ sy’n cael ei adnewyddu a dilyn y llwybr i mewn i’r goedwig.

Llun 2

Ewch yn syth ymlaen tan i’r llwybr hollti, wedyn trowch i’r dde i fynd trwy gât.

Llun 3

Ewch yn syth ymlaen trwy ddwy gât cyn dringo llwybr serth sy’n mynd â chi drwy’r deri hynafol a cymerwch ddigon o ffotograffau o’r canghennau troellog a’r ceffylau bach sydd yn y caeau…. mae hyn yn rhoi cyfle i chi ailennill eich gwynt.

Llun 4

Dilynwch y llwybr – gan fynd rownd ambell droad ac yna cyrraedd diwedd y coetir a chyrraedd gat.

 

2 Dilynwch y trac o’ch blaen, gan gadw ar y llwybr sydd ar hyd ochr ffens.

Llun 5

Digon o gyfle nawr i edrych yn ôl a gweld Aberdyfi ac aber hyfryd afon Dyfi ac os ydych chi yno ar yr adeg iawn o’r flwyddyn – bydd yna wyn bach a defaid ymhob man.

Llun 6

Ymlaen â chi yn syth ar draws cae (a’r olygfa a’r môr tu ôl i chi)  ar hyd yr arglawdd dros nant fechan a thrwy gat arall.

Llun 7

Cerddwch i fyny trwy’r coed ac ymlaen wrth ochr ffens ar y dde gan ymuno â thrac.

Ewch yn syth ymlaen trwy ddwy gât ac at fferm Gwar Cwm Uchaf.  Rydych chi nawr wedi cyrraedd hewl darmac.

Ac mae’r golygfeydd yn werth eu gweld – y môr a’r mynydd.

Llun 8

 

3 Trowch i’r chwith a dilyn y ffordd darmac, lawr trwy gat fetal a lawr at hen bont hyfryd dros afon Cletwr.

Llun 9

Lan ochr draw, a heibio i fferm sy’n cadw geifr, gwyddau a hwyaid.  Rydych chi’n cadw ar y ffordd darmac yr holl ffordd tan i chi ddod at fforch ac ewch i’r chwith.

Llun 10

Mae’n dal yn ffordd darmac ond yn hynod o dawel ac yn droellog ac yn mynd lan a lawr fel bod rhyfeddodau rownd pob cornel.

Llun 11

Pasiwch dŷ ar y chwith a dau ar y dde a dod i gopa bach lle byddwch chi eto yn gweld golygfeydd hyfryd gan gynnwys buchesi da duon Cymreig.

Llun 12

Lawr nawr yr holl ffordd i Dre’r Ddôl – ac mae’n eitha serth ond cyfle da i gael ffotograffau o geffylau, clychau glas, neu i gasglu mwyar os yw hi’n hydref …

 

Mae’n rhyw dair milltir a hanner gyda dringfa digon serth ar y dechrau ac ar y diwedd (ond i lawr!) felly gwisgwch sgidiau sy’n addas i fynd drwy lwybrau yn y coed.

 

 

Mwynhewch.