Cerdded, Crafu Pen, Clonc a chacen

Gŵyl Bro: Dod ynghyd yn Llanilar

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
241430150_550145159550829
241380357_599865854729660
241552890_369692208102892
pos

Un o bosau’r prynhawn – sawl triongl chi’n weld?

241226182_1004868330349643

Enillwyr tocyn rhodd £10 i Siop Llanilar oedd Dori ac Alwena.

‘Na beth oedd prynhawn braf yn Llanilar ddoe. Dim oherwydd bod yr haul yn gwenu, bonws odd hwnnw, ond gan fod criw da wedi dod ynghyd i gymdeithasu a thynnu coes.

Chi’n galw hwnna’n llyn? – Ma’ pot holes mwy yn Nhrisant!

Daeth pobl ynghyd o sawl ardal o bapur bro Y DDOLEN a dyma’r tro cyntaf i’r tîm golygyddol gwrdd wyneb yn wyneb ers 2019!!

Efallai nad oedd pobl yn siŵr beth i ddisgwyl gyda theitl y digwyddiad!! Taith gerdded yn dechrau o’r Hen Ysgol a mynd ymlaen wedyn ar hyd yr hewl i Gwm Aur, lawr i’r llwybr seiclo a nôl ar hyd yr afon am wâc o gwmpas Llyn y Ficerdy cyn dychwelyd i’r man dechrau. Ond roedd posau i’w chwilio a’u cwblhau ar hyd y daith er mwyn dod o hyd i’r llythrennau oedd angen i ffurfio enw un o bentrefi ardal Y DDOLEN.

Daeth pawb nôl wedi mwynhau’r cyfle i grafu pen a stretsio’r coesau ar yr un pryd!

I’r plant roedd rhaid chwilio am gymeriadau CYW oedd wedi dod am dro i Lanilar am y prynhawn.

Addawyd paned a chacen i bawb ar ddiwedd y wâc a mas tu fas fuom ni gan fod y tywydd mor braf yn cloncan a rhoi’r byd yn ei le.

Joiodd pawb ac am 6.30pm gadawodd rhai ohonom ni gan bod ni wedi parhau i gloncan ar ôl y clirio!

Diolch i bawb. Pob lwc i weddill digwyddiadau penwythnos Gŵyl Bro.

Cofiwch fynd i’r picnic ym Mhonterwyd prynhawn yma – edrychwn ymlaen at weld y lluniau.

1 sylw

Hywel Llyr Jenkins
Hywel Llyr Jenkins

Prynhawn fach neis. Er i ni fynd y ffordd anghywir ?. Wps. Lwcus naethoch chi ddim amseru ni! Diolch yn fawr am drefnu.

Mae’r sylwadau wedi cau.