Os ydych chi’n lico coed …. mae digon i chi fwynhau fan hyn a’r rheiny yn hen ddihenydd.
Mae’r wâc yma yn mynd â chi drwy hen goed derw hudolus cyn i chi ddringo uwch eu pennau a gweld holl ryfeddod aber afon Dyfi.
Mi gerddon ni hi ddechrau mis Mai a chael gweld defaid ac wyn yn y caeau, rhai o fuchesi gwartheg duon Cymreig gorau Cymru, clychau glas a golygfeydd ffantastig. Felly dyma’r cyfarwyddiadau – hanner ohonyn nhw gen i a’r hanner arall o daflen Biosffer Dyfi – yma:
O Dre’r Ddôl i Gwar Cwm Uchaf ac yna yn ôl ar hyd y ffordd yw fy am dro i – ychydig yn wahanol i’r daflen ond ar ôl i chi wneud fy un i mi fyddwch chi am wneud y llall rwy’n siwr! Ac mae map y daflen yn rhoi rhyw fath o syniad i chi o’r llwybrau.
Gan bod yr am dro yn mynd o Dre’r Ddôl ac yn ôl parciwch yn agos at Caffi Cletwr fel eich bod chi yn gallu cael paned a chacen ar ddiwedd eich taith!
1. O Cletwr ewch drwy’r pentre i gyfeiriad Tal-y-bont dros y bont ac at yr hen gapel. A troi i’r chwith wrth (cyn) y capel i ddilyn trac dynodedig.
Llun 1
Yn fuan, trowch i’r dde wrth dŷ sy’n cael ei adnewyddu a dilyn y llwybr i mewn i’r goedwig.
Llun 2
Ewch yn syth ymlaen tan i’r llwybr hollti, wedyn trowch i’r dde i fynd trwy gât.
Llun 3
Ewch yn syth ymlaen trwy ddwy gât cyn dringo llwybr serth sy’n mynd â chi drwy’r deri hynafol a cymerwch ddigon o ffotograffau o’r canghennau troellog a’r ceffylau bach sydd yn y caeau…. mae hyn yn rhoi cyfle i chi ailennill eich gwynt.
Llun 4
Dilynwch y llwybr – gan fynd rownd ambell droad ac yna cyrraedd diwedd y coetir a chyrraedd gat.
2 Dilynwch y trac o’ch blaen, gan gadw ar y llwybr sydd ar hyd ochr ffens.
Llun 5
Digon o gyfle nawr i edrych yn ôl a gweld Aberdyfi ac aber hyfryd afon Dyfi ac os ydych chi yno ar yr adeg iawn o’r flwyddyn – bydd yna wyn bach a defaid ymhob man.
Llun 6
Ymlaen â chi yn syth ar draws cae (a’r olygfa a’r môr tu ôl i chi) ar hyd yr arglawdd dros nant fechan a thrwy gat arall.
Llun 7
Cerddwch i fyny trwy’r coed ac ymlaen wrth ochr ffens ar y dde gan ymuno â thrac.
Ewch yn syth ymlaen trwy ddwy gât ac at fferm Gwar Cwm Uchaf. Rydych chi nawr wedi cyrraedd hewl darmac.
Ac mae’r golygfeydd yn werth eu gweld – y môr a’r mynydd.
Llun 8
3 Trowch i’r chwith a dilyn y ffordd darmac, lawr trwy gat fetal a lawr at hen bont hyfryd dros afon Cletwr.
Llun 9
Lan ochr draw, a heibio i fferm sy’n cadw geifr, gwyddau a hwyaid. Rydych chi’n cadw ar y ffordd darmac yr holl ffordd tan i chi ddod at fforch ac ewch i’r chwith.
Llun 10
Mae’n dal yn ffordd darmac ond yn hynod o dawel ac yn droellog ac yn mynd lan a lawr fel bod rhyfeddodau rownd pob cornel.
Llun 11
Pasiwch dŷ ar y chwith a dau ar y dde a dod i gopa bach lle byddwch chi eto yn gweld golygfeydd hyfryd gan gynnwys buchesi da duon Cymreig.
Llun 12
Lawr nawr yr holl ffordd i Dre’r Ddôl – ac mae’n eitha serth ond cyfle da i gael ffotograffau o geffylau, clychau glas, neu i gasglu mwyar os yw hi’n hydref …
Mae’n rhyw dair milltir a hanner gyda dringfa digon serth ar y dechrau ac ar y diwedd (ond i lawr!) felly gwisgwch sgidiau sy’n addas i fynd drwy lwybrau yn y coed.
Mwynhewch.