Cefnogwch ddeiseb yn galw am ariannu gwell i ymchwil tiwmor yr ymenydd.

Mae angen ariannu gwell i sicrhau fod triniaethau ar gael i gleifion.

gan Cerys Humphreys
thumbnail_Image-48

Fi (Cerys) a’n nhad Wynn, nu farw o diwmor yr ymenydd.

Bu farw fy nhad i diwmor yr ymennydd yn 2017 ac rydw i, ynghyd â Ben Lake AS, yn annog unigolion i arwyddo deiseb yn galw am fwy o fuddsoddiad cenedlaethol mewn ymchwil tiwmor yr ymennydd.

Es i a dad i Bronglais bore dydd Sadwrn yn Ionawr 2016 gan feddwl ei fod wedi cael stroc. Darganfuwyd yn ddiweddarach yn y diwrnod fod ganddo diwmor yr ymennydd a hwnnw’n derfynol – glioblastoma gradd 4. Roedd yn 72. Ar ôl ymddeol o’r diwydiant coedwigaeth ar ôl dros 50 mlynedd, cafodd waith fel porter ym Mronglais ac roedd yn dal i weithio’n llawn amser ac yn mwynhau bywyd. 

Roedd y diagnosis yn sioc i bawb ac roeddem fel teulu mewn sioc. Cafodd dad lawdriniaeth ynghyd a cemotherapi a radiotherapi i ymestyn ei fywyd. 

Dechreuais ymchwilio ymhellach a darganfod cyn lleied o arian oedd yn cael ei fuddsoddi mewn ymchwil tiwmor ar yr ymennydd a nad oedd fawr o ymchwil yn cael ei wneud nag opsiynau triniaeth ar gael i gleifion: 

Yn anffodus bu farw dad ym Mawrth 2017. Datblygais ddiddordeb yn y pwnc ar ôl clywed fod Dame Tessa Jowell, cyn aelod seneddol a gweinidog diwylliant, yn ymgyrchu i gael newid i ariannu triniaeth ac ymchwil y cyflwr, ar ôl iddi hithau gael diagnosis o glioblastoma gradd 4. 

Dechreuais ddilyn ymgyrch elusen Brain Tumour Research i sicrhau ychwaneg o fuddsoddiad i’r ymchwil. Mae £500 miliwn yn cael ei wario ar ymchwil cancr yn y DU bob blwyddyn a llai na 3% yn cael ei wario ar diwmor yr ymennydd. 

Ysgrifennais at Ben Lake, AS Ceredigion, ym mis Hydref yn gofyn iddo fod yn bresennol yn yr ‘All-Party Parlimentary Group on Brain Tumours (APPG-BT)’ a sefydlwyd yn 2005 i godi ymwybyddiaeth yng nghymuned tiwmor yr ymenydd. 

Mae gofalu fod aelodau seneddol fel Ben Lake ac eraill yn cadw proffeil ymchwil i diwmor yr ymenydd yn uchel ar yr agenda gwleidyddol, fel na fydd teuluoedd eraill yn gorfod dioddef y torcalon sy’n dod law yn llaw a diagnosis fel hyn. Mae’r ‘All Party Parliamentary Group on Brain Tumours’ yn trafod nifer o faterion yn ymwneud a thiwmor yr ymenydd, ac un o’r materion yma ydy gweithio er mwyn sicrhau fod ymchwil yn parhau. Rydw i yn annog unigolion i gefnogi ymgyrch diweddaraf Brain Tumour Research, drwy arwyddo’r e-ddeiseb, er mwyn sicrhau fod yna fuddsoddiad mewn ymchwil, sydd yn holl bwysig.  

“Ar ôl clywed am golled sydyn Cerys a’i theulu a’r diffyg opsiynau triniaeth oedd ar gael i’w thad, teimlwn ei bod yn ddyletswydd arnaf i ymuno â’r ‘All-Party Parliamentary Group on Brain Tumours’ i ddysgu mwy am y cyflwr dinistriol hwn ac i weld sut y gallwn gefnogi’r ymgyrch bwysig i sicrhau rhagor o fuddsoddiad ym maes ymchwil tiwmor ar yr ymennydd. 

“Mae’n frawychus meddwl bod gennym ni cyn lleied o ddealltwriaeth gwyddonol am y cyflwr. Y gwirionedd yw bod gwaith ymchwil ar y cyflwr wedi dioddef diffyg buddsoddiad ers degawdau, ac o ganlyniad, yn wahanol i fathau eraill o gancr, mae’r tebygolrwydd o oroesi’r cancr hwn yn isel iawn ac mae’r opsiynau triniaeth yn gyfyng iawn.

“I mi, mae’n amlwg bod angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi ar frys ym maes ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd, fel y gallwn adeiladu gwell seilwaith ymchwil a chynyddu’r opsiynau triniaeth i gleifion. Gofynnaf i chi ymuno â mi a chefnogi’r ymgyrch bwysig hon drwy arwyddo’r ddeiseb sy’n galw am fwy o fuddsoddiad cenedlaethol mewn ymchwil tiwmor yr ymennydd.”

Arwyddwch y ddeiseb yma: 

https://www.braintumourresearch.org/campaigning/brain-tumour-research-petition#signnow