Cefnogi Dysgwyr i Siarad Cymraeg

Dod â dysgwyr profiadol a siaradwyr rhugl at eu gilydd i sgwrsio am 10 awr dros sawl mis 

Cêt Morgan
gan Cêt Morgan

Hoffech chi gefnogi rhywun sy’n dysgu Cymraeg?

Gall dysgu unrhyw iaith newydd fod yn dalcen caled, ond y ffordd orau o ddysgu Cymraeg ar ôl treulio oriau di-rif yn y dosbarth yw rhoi’r iaith ar waith yn y byd go iawn.

Lansiodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei gynllun “Siarad” ar ei newydd wedd y llynedd, ac yn syml iawn, nod y cynllun yw dod â siaradwyr Cymraeg a dysgwyr profiadol ynghyd i sgwrsio’n anffurfiol mewn parau am ryw 10 awr dros gyfnod o wythnosau a misoedd.

Erbyn hyn, cannoedd o ddysgwyr a siaradwyr sy’n cymryd rhan, ac mae angen mwy o siaradwyr Cymraeg i helpu allan.

Beth am roi cynnig arni?

Chi sy’n penderfynu pryd a sut dych chi am siarad â’ch partner – dros y ffôn neu ar lwyfannau fel Skype, Zoom, Messenger, WhatsApp – beth bynnag sy’n gweithio i chi.

Gallwch drafod unrhyw bwnc dych chi’n cytuno gyda’ch gilydd. Gallwch drafod pynciau pob dydd neu sôn am bethau dych chi wedi’u gweld, gwneud neu ddarllen. Mae’r sesiynau dych chi’n trefnu gyda’ch gilydd yn gyfleoedd i’r dysgwyr ymarfer eu Cymraeg a magu hyder. Nid gwersi ydyn nhw.

Mae pawb sy’n cymryd rhan – yn siaradwyr a dysgwyr – yn gwneud hyn o’u gwirfodd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Richard (e-bost: riv1@aber.ac.uk) sy’n
cydlynu’r rhaglen yng Ngheredigion, neu ffoniwch
0800 876 6975 gan adael neges.