Tor Calon Hwyr i Aber

Aberystwyth 1 – 2 Y Drenewydd 09/04/2021

gan Gruffudd Huw
Drenewydd-2-Dd
Drenewydd-2-A

Dim ond pythefnos ar ôl curo’r Drenewydd yng nghymal cyntaf y gynghrair, roedd y ddau dîm yn cwrdd unwaith eto i ddechrau’r ail gymal. Gydag Aber yn ddiguro yn eu pedair gêm gartref ddiwethaf a’r Drenewydd wedi colli eu tair gêm ddiwethaf, roedd hi’n edrych yn addawol i’r tîm cartref. Er hyn, byddai Connor Roberts a Jamie Veale, dau chwaraewr dylanwadol, yn absennol oherwydd gwaharddiadau.

Nid noson Aber oedd hi yn y diwedd gyda’r ymwelwyr yn cipio’r tri phwynt gyda dwy gôl hwyr i dorri calonnau’r tîm cartref. Er gwaethaf y canlyniad siomedig, mae Aber dal mewn safle cyfforddus ac yn debygol o osgoi disgyn (hynny ydy os bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn penderfynu caniatáu dyrchafiad o’r JD Cymru Gogledd/De).

Yr ymwelwyr gafodd y dechrau gorau. Gwelwyd sawl ymdrech ganddynt yn yr hanner awr cyntaf yn peri gofid i Aber. Er gwaethaf y cyfleoedd cynnar, roedd Alex Pennock yn y gôl i Aber yn chwarae’n wych. Arbedodd sawl ergyd heriol a bu’n awdurdodol yn casglu’r peli rhydd ar ymyl y cwrt ac o gorneli. Roedd Pennock wedi llwyddo i lenwi sgidiau Roberts yn y gôl.

Roedd Aber dan bwysau cyson, ond yn erbyn rhediad y chwarae fe sgoriodd Aber ar ôl 41 munud. Enillwyd cornel ac fe gamodd Mathew Jones i’w gymryd ar yr asgell chwith. Croesodd y bêl yn berffaith tuag at y capten, Marc Williams, ac fe gwyrodd y bêl i mewn i gornel pella’r gôl. Ar yr hanner felly, roedd Aber ychydig yn lwcus i fod ar y blaen.

Am y mwyafrif o’r ail hanner yr un oedd y stori. Y Drenewydd oedd yn rheoli ac roedd rhaid i Aber ddibynnu ar wrthymosod i greu cyfleoedd prin. Er bod y mwyafrif o gyfleoedd yr ymwelwyr yn yr ail hanner wedi mynd yn llydan neu dros y trawsbren, roedd Pennock yn dal i chwarae’n dda fel “sweeper” gan reoli’r cwrt cosbi.

Wrth i’r gêm ymlwybro i derfyn fe newidiodd y sefyllfa’n gyfan gwbl. Fe sgoriodd Ofori i’r ymwelwyr gan ddriblo trwy amddiffyn Aber a phasio’r bêl i gornel y rhwyd. Gôl haeddiannol i’r Drenewydd ond eto ychydig yn anlwcus i Aber gyda Bradford yn edrych fel petai wedi’i faglu gan un o ymosodwyr yr ymwelwyr yn arwain at y gôl.

Drama hwyr unwaith eto! Gwaethygodd y sefyllfa ar ôl 93 munud gyda’r ymwelwyr yn cipio’r fuddugoliaeth. Gwelwyd pas lac gan Aber yng nghanol y cae ac fe fanteisiodd Jordan Evans ar y cyfle gan redeg heibio’r amddiffyn ac yna’n rhwydo. Anlwcus iawn i Pennock ar ôl chwarae mor dda drwy gydol y gêm.

Doedd Aber ddim ar eu gorau a’r canlyniad yn golygu fod Y Drenewydd bellach dau bwynt uwchben Aber yn yr Uwchgynghrair. Bydd cyfle iddynt daro ’nôl pan fyddant yn ymweld â Hwlffordd ar nos Fawrth, 12 Ebrill ac yna croesawu’r Fflint ar Ebrill 16.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.