Buddugoliaeth gampus i Aber

Aberystwyth 5 – 1 Derwyddon Cefn 27/04/2021

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Aber-v-Derwyddon-Cefn
Aber-v-Derwyddon-Cefn-J-Reed

Jamie Reed yn sgorio o’r smotyn

Aber-v-Derwyddon-Cefn-Jon-Owen

Jon Owen yn sgorio

Ar ôl ennill 3-0 yn erbyn Derwyddon Cefn oddi cartref wythnos yn ôl, roedd y disgwyliadau’n uchel am fuddugoliaeth arall. Gwnaeth Aber ddim siomi’r cefnogwyr gyda buddugoliaeth a phum gôl swmpus. Er bod y sgôr terfynol yn awgrymu gêm gymharol hawdd i Aber, roedd y tri phwynt yn y fantol tan i Aber sgorio ei trydedd gôl i fynd 3-1 ar y blaen wedi 82 munud.

Yn wir ar y dechrau roedd pethau ddim yn edrych yn addawol i Aber. Yn y funud gyntaf derbyniodd Lee Jenkins driniaeth hir am anaf. Ond yn ffodus gallodd barhau gan chwarae rhan bwysig yn nrama cynta’r gêm.

Gyda’r Derwyddon yn pwyso bu bron iddynt fynd ar y blaen wedi 9 munud. Gydag amddiffynwyr Aber yn taflu eu hunain o flaen mwy nag un ymdrech o ymyl y cwrt chwech gan flaenwyr Derwyddon, tarodd yr ymdrech olaf cefn Lee Jenkins ar y llinell gôl! Mae’n amlwg fod yr anaf cynnar yn poeni Lee Jenkins gan iddo gael ei eilyddio cyn diwedd yr hanner gyda Kearney yn dod i’r maes.

Roedd yn gêm yn agored iawn a prin oedd yr amser yng nghanol y cae. Yna wedi 25 munud dyma Mark Williams yn hollti amddiffyn y Derwyddon gyda phêl gelfydd lawr yr asgell chwith i Franklin. Brasgamodd Franklin mewn i’r cwrt cosbi cyn crymanu’r bêl rhwng dau o’r amddiffynwyr i gornel pella’r rhwyd i roi Aber ar y blaen.

Deng munud yn ddiweddarach roedd Franklin yn ei chanol hi unwaith eto. Y tro yma fe oedd y creu’r cyfle i Owain Jones rwydo i roi Aber dwy ar y blaen. A dyna oedd y sgôr ar yr hanner.

Pob clod i’r Derwyddon, roeddynt yn parhau i frwydro am bob pêl ar ddechrau’r ail hanner ac yn dechrau edrych yn fwy peryglus. Wedi croesiad isel o’r asgell dde, camodd Faux dros y bêl a rhedodd y bêl i Flint. Ergydiodd Flint o ochr chwith y cwrt heibio i Roberts i rôi gôl haeddiannol i’r Derwyddon – 2-1.

Roedd y gêm yn parhau’n agored iawn gyda’r ddau dîm yn ymosod. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau dîm oedd bod Aber yn creu gwell cyfleon gyda Franklin ag Owain Jones yn amlwg.

Daeth y gôl holl bwysig i Aber wedi 82 munud. Williams yn rhyddhau Franklin lawr yr ochr chwith unwaith eto ac er i ergyd Franklin gael ei arbed yn dda gan Michael Jones yn y gôl, roedd Owain Jones wrth law i rwydo’i ail gôl i roi Aber ar y blaen 3-1.

Gyda’r fuddugoliaeth yn ddiogel, ac unrhyw obaith i’r Derwyddon wedi ei chwalu, daeth cyfleon pellach i Aber ymestyn ei mantais. Sgoriodd Jamie Reed o’r smotyn ar ôl 90 munud, wedi iddo gael ei faglu yn y cwrt. Yna’n dilyn gwaith da lawr y chwith gan Reed daeth y bêl ar draws i Jon Owen i basio’r bêl i’r rhwyd wedi 93 munud.

Gobeithio bydd y fuddugoliaeth yn hwb i Aber wrth iddynt chwarae oddi cartref ym Met Caerdydd nos Wener ac yna’r gêm olaf adref y tymor yma yn erbyn Hwlffordd nos Fawrth nesaf.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.