Brwydr agos ond …

Aberystwyth 0 – 1 Y Fflint 16/04/2021

gan Gruffudd Huw
Aberystwyth v Fflint

Ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf o un gôl, roedd Aber yn gobeithio dringo i fyny’r tabl drwy gipio tri phwynt yn erbyn y Fflint. Er hyn, ni fyddai’n dasg hawdd, gyda’r Fflint wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf gan sgorio saith gôl!

Yn anffodus, colli unwaith eto o unig gôl y gêm oedd hanes Aber. Roedd y gêm ar y cyfan yn agos gyda’r ddau dîm yn edrych yn nerfus iawn ac yn colli meddiant ar sawl achlysur, yn enwedig yn yr hanner cyntaf.

Dechreuodd yr hanner cyntaf yn bryderus i Aber gyda gwrthdrawiad yng nghanol y cae. Anelodd Dan Cockerline am y bêl yn yr awyr ond trawodd ei ben yn erbyn un o chwaraewyr y Fflint. Bu ar y llawr am gwpl o funudau ond nid oedd yn anaf difrifol, ac fe barhaodd i chwarae.

Daeth prif gyfle’r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf ar ôl 11 munud, gyda Lee Jenkins yn rhwystro Cadwallader rhag sgorio gan arbed y bêl ar y llinell gôl. Roedd yn rhaid aros bron chwarter awr i weld cyfle gwerth chweil arall.

Ar ôl 24 munud daeth cyfle gwych i Aber gyda Mathew Jones yn croesi’r bêl o gic rydd ar yr asgell chwith. Deifiodd Louis Bradford tuag at y bêl a phenio am y gôl, ond cafwyd arbediad da gan Rushton yn y gôl. Diddigwyddiad oedd gweddill yr hanner ac felly’n gorffen yn ddi-sgôr.

Roedd yr ail hanner yn parhau’n agos iawn gyda’r ddau dîm yn brwydro’n galed ond ddim yn cynhyrchu llawer o gyfleon clir. Roedd Fflint yn llenwi canol y cae ac yn gorfodi Aber i daro peli hir heb fawr o lwyddiant.

Daeth y Fflint yn agos i sgorio ar ôl 68 munud o gic rydd ar ymyl y cwrt cosbi. Er i Ben Maher lwyddo i godi’r bêl dros y wal, ni lwyddodd y bêl i ddisgyn mewn pryd ac aeth dros y trawsbren.

Gyda’r Fflint yn cynyddu’r pwysau ar amddiffyn Aber, llwyddodd yr ymwelwyr i agor y sgorio. Pasiodd Harwood y bêl drwy ganol amddiffyn Aber tuag at Amis. Rhedodd yntau ymlaen a rhwydo’n isel i’r gornel chwith.

Gydag amser yn brin, tro Aber oedd hi i bwyso. Ar ôl 82 munud, gwaeddodd chwaraewyr Aber am gic o’r smotyn gan honni fod un o amddiffynwyr y Fflint wedi llawio’r bêl. Anwybyddodd y dyfarnwr yr apêl a pharhaodd y chwarae gyda Jonathan Evans yn ergydio ond Rushton yn arbed unwaith eto.

Er gwaethaf y pwysau hwyr gan Aber, colli’r trydydd tro o’r bron fu eu hanes gan ddisgyn un safle arall yn yr Uwch Gynghrair.  Ond daeth un newydd da i Aber yn gynharach yn yr wythnos. Cyhoeddodd y Gymdeithas Bêl-droed na fyddai timau’n gostwng o Uwch Gynghrair JD Cymru ar ddiwedd y tymor yn sgil gohirio gemau cynghreiriau JD Cymru’r Gogledd a’r De. Felly, gall y cefnogwyr gysgu’n ychydig tawelach eu meddwl!

Rwy’n siŵr y bydd y cefnogwyr am weld Aber yn gorffen y tymor yn gryf, ac mae cyfle da yr wythnos nesaf pan fyddant yn chwarae yn erbyn Derwyddon Cefn nos Fawrth a Met Caerdydd nos Wener.