Daeth Emlyn o hyd i £5 wrth gasglu gwastraff gyda changen Plaid Cymru yn Nhrefechan.
Y Cynghorydd Endaf Edwards sydd yn trefnu sesiynau misol o gasglu gwastraff mewn gwahanol ardaloedd o ward Rheidol. Mae Endaf wedi bod yn cynnal y sesiynau yma yn rheolaidd.
Ar ddiwrnod braf, dechreuwyd o’r gornel gan yr orsaf dân, a rhannwyd yn dimau i wneud gwahanol ardaloedd.
Gorffennwyd yn y depo ar Goedlan y Parc gyda bagiau llawn iawn.
Ffordd o gadw yn heini, helpu’r amgylchedd a gwneud Aberystwyth yn le gwell i fyw, a falle dod o hyd i arian ar eich ffordd.