Blynyddoedd Unigryw

Diwrnod Rhyngwladol y Merched: rhedeg cwmni teledu yng nghefn gwlad Ceredigion – Catrin M S Davies

Catrin M S Davies
gan Catrin M S Davies

Gyrfa Unigryw cynhyrchydd teledu i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Catrin M S Davies

Pan mae rhywun yn gofyn i fi beth rwy’n ei wneud, beth yw ngwaith i, yr ateb bob tro yw mod i’n gwneud rhaglenni radio a rhaglenni teledu. Fy nheitl, mae’n debyg, yw cynhyrchydd – cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd radio – ond mae’n swnio ’bach yn bwysig i fi, a dwi ddim yn credu mod i’n gynhyrchydd “go iawn”!

Gwneud rhaglenni Unigryw

Rydw i wastad wedi gweithio i weithdai ffilm, cwmnïau teledu bychain neu i fy nghwmni fy hun, a ddim wedi cynhyrchu mewn cwmni mawr lle mae modd arbenigo, canolbwyntio ac arwain timau arbenigol. Rydw i wedi arfer â gwneud ’bach o bob peth: yr ymchwil, y trefnu, y sgriptio, y golygu, y gwaith papur a bod yn gyfrifol am bob agwedd o’r cynhyrchiad. Felly, gwneud rhaglenni yw’r disgrifiad ac mae hi’n swydd fendigedig. Yr elfen negyddol bob amser yw llwyddo i gael comisiynau. Mae’n broses o lunio syniadau a’u cyflwyno i ddarlledwyr a chomisiynwyr a bod yn barod i dderbyn NA yn llawer amlach na derbyn comisiwn a chael gwneud rhaglenni.

Mae’r degawd diwethaf yma wedi bod yn gyfnod heriol o ran llwyddo i ennill comisiynau gan fod y cyllidebau yn llai a’r gystadleuaeth yn llym, a chwmnïau annibynnol mwy Cymru yn llwyddo i ennill mwyafrif oriau S4C. Ond y mae hefyd wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn o ran y cwmni – Unigryw.

Dylan ar Daith

Rhwng 2013 a 2018 mi fues i’n ddigon ffodus i weithio ar ddwy gyfres o Dylan ar Daith, sef rhaglenni lle’r oedd yr athrylith Dylan Iorwerth yn cyflwyno un Gymraes neu Gymro oedd wedi teithio o Gymru ac wedi gwneud argraff a gadael gwaddol rywle ar draws y môr. Cyfres uchelgeisiol – lot fawr o waith ymchwil oedd yn cael ei wneud yn gwbwl fanwl a chynhwysfawr a chywir gan yr amryddawn Dana Edwards.

Ar ôl i Dana, Dylan a minnau gael drafft o sgript yn barod, byddai’n rhaid dechrau trefnu. Roedd yn rhaid trefnu’r teithio, y llefydd i aros, y teithio o fewn y gwledydd penodedig, rhai i’w cyf-weld gan gynnwys haneswyr, pobol oedd yn cofio’r person dan sylw, y lleoliadau ffilmio ac weithiau gyfieithydd lleol a mwy.

Mi fyddwn i’n rhyfeddu bob tro wrth wneud y gwaith trefnu pa mor wych yw’r we, gan fy ngalluogi i weld yn union ble roedden ni’n mynd a beth fyddai i’w weld, lle allen ni ffilmio, faint o amser fyddai taith o A i B, a llawer iawn mwy. Ac wedyn byddai ambell wlad lle allwn i weld dim byd manwl ar y we, megis China, Israel, a darnau o India, a byddai cyrraedd a darganfod beth oedd yno yn syrpréis! Un syrpréis oedd cyrraedd gwesty mewn tre yn India – gwesty oedd yn cael adolygiad gwych ar TripAdvisor ond a oedd mewn gwirionedd yn doji iawn! Cebl trydan yn y gawod, madfallod a chwilod duon mawr yn yr ystafell wely a lot fawr o bethau difyr eraill. Hwn oedd yr unig westy/lety o fewn degau o filltiroedd – doedden ni ddim yn ardaloedd ymwelwyr India!

Ynys yr haul, Bolifia

Ta beth, ar ôl y trefnu o bell – off â ni. Dylan yn cyflwyno, Aled Jenkins yn ffilmio, a finnau’n gyrru ac yn trio cadw at yr amserlen, oedd bob amser yn dynn! Fuon ni i 11 o daleithiau yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys rhyfeddodau Hawai’i, y Rockies yn Canada, dirgelion India, a Trinidad, Sbaen, Ffrainc, yr Almaen, Israel, Morocco, Gibraltar, Sardinia, a’r ddwy wlad wnaeth yr argraff ddyfnaf arna i, sef Bolivia a China. Bolivia oherwydd ei bod hi mor brydferth a dramatig, lan yn yr Andes 12,000 troedfedd uwch lefel y môr; a China oherwydd ei bod hi mor enfawr, ac mor wahanol ym mhob ffordd.

Stryd yn nhre Qingzhou a ailgodwyd yn ddiweddar i edrych yn union fel y byddai ganrifoedd yn ôl

Olion llosgfynydd yn Hawai’i

Bachgen bach Iddewig yn rhedeg i’r deml

Cofio cyfraniad Helen Rowlands 

Roedd y storïau hefyd yn rhyfeddol – o gymhlethdodau bywyd Lily Tobias yn Israel wedi ’48 i hanes yr awdures anghofedig Margaret Roberts, a anwyd yn yr Hirwaun, a aeth i America ac addysgu ei hun mewn ffiseg, astronomeg a mwy, a stori hollol arwrol Helen Rowlands, y genhades yn yr India. Mi ddylsen ni fod yn cofio am Helen Rowlands gan iddi wneud gwaith mawr yn nwyrain India. Fel cenhades, ie – a dwi’n gwybod beth yw holl gwestiynau dyrys cenhadu – ond mi wnaeth hi lawer mwy drwy ddysgu ieithoedd lleol a chanolbwyntio ar y tlodion – yr untouchables – a darparu cartrefi a bywyd llawn i rai oedd wedi eu gwrthod gan eu teuluoedd. Mae yna ysgol wedi ei henwi ar ei hôl hi, a hyd heddi mae’r cof amdani’n fyw.

Plant yn Ysgol Goffa Helen Rowlands

Nyrsys o Gymru yn Sbaen yng nghyfnod y Rhyfel Cartre

A gan ein bod yn dathlu Diwrnod y Menywod, mae angen i ni gofio am ddwy fenyw neilltuol arall, dwy y buom ni ar eu trywydd yn Sbaen. Dwy nyrs o Gymru aeth i Sbaen adeg y Rhyfel Cartre i nyrsio’r milwyr oedd yn ymladd Ffasgiaeth: Margaret Powell o Grughywel a Thora Silverthorne o Abertyleri. Dwy arbennig iawn sydd byth yn cael eu henwi pan fydd ymdrech y Cymry adeg Rhyfel Cartre Sbaen yn cael ei gofio a’i grybwyll.

Margaret Powell sydd yn y cefn ar y chwith

Waliau’n Siarad

Wedi cyffro a gwaith caled dwy gyfres o Dylan ar Daith, daeth y teithio i ben gydag S4C yn dewis peidio ailgomisiynu. Felly ’nôl at y llyfrau nodiadau, y ffolderi gyda sgraps o bapur, Post-its ar y welydd gyda “pobol ddifyr”, a dyddiadau nad ydw i’n cofio pam eu bod nhw yno, darnau o erthyglau fan hyn a man draw, a cheisio meddwl am gyfres arall a allai apelio … ac a allai ennill comisiwn. A daeth Waliau’n Siarad i fod. Cyfres yn edrych ar un adeilad arbennig ym mhob rhaglen gan olrhain hanes yr adeilad, nodweddion pensaernïol, storïau cyn-weithwyr, trigolion, defnyddwyr – unrhyw un oedd wedi defnyddio, neu oedd yn dal i ddefnyddio’r adeilad.

Roedd hon yn gyfres wahanol iawn i Dylan ar Daith gan ein bod ni angen llawer iawn mwy o bobl na’r tîm bach oedd yn creu honno. Dau gyflwynydd – Sara Huws ac Aled Hughes – oedd heb gydweithio cynt ond a greodd gyfeillgarwch o’r munud cyntaf. Yna, daeth y tîm amryddawn Esther Prytherch, Mari Siôn ac Elan Elidyr i helpu Dana a minnau gyda’r ymchwil, y trefnu, sgriptio, a phopeth arall! A’r tro hwn roedd dau berson camera ym mhob lleoliad, person sain a pherson drôn – felly patrwm gwaith gwahanol iawn iawn! Yn hytrach na thîm allai ffitio mewn car mini, roedd haid ohonon ni fyddai angen bws mini.

Gyda Waliau’n Siarad roedd y teithio i gyd yn lleol … i ffermdy Mynachlog Fawr yn Ystrad-fflur (anhygoel); Coleg Harlech – stori enfawr; Hen Wyrcws y Dolydd yn Llanfyllin – storïau torcalonnus ond mor bwysig i’n cyfnod ni; Warws Pryce-Jones yn y Drenewydd – lle mae pob bricsen yn dweud popeth am gyfnod ei godi ac am lwyddiant rhyngwladol Pryce-Jones; Castell y Strade, sydd ddim yn gastell o gwbwl ond yn blasdy bendigedig; a hen Neuadd y Dre ym Merthyr, a welodd lwyddiannau’r mudiad Llafur ar ei dwf a gweinyddiaeth yn dilyn trasiedi Aberfan.

 

Aled Hughes ar ôl iddo fy herio i unwaith yn ormod y prynhawn hwnnw

Criw Unigryw ym Mynachlog Fawr

 

Gosod y cit ffilmio yng Nghastell y Strade

 

Pan y’ch chi wedi gofyn gormod gan y cyflwynydd …

Golygu – y cam nesaf

Unwaith mae’r ffilmio wedi ei orffen, mae’n rhaid golygu. Y broses i fi yw mod i’n bras olygu yn y swyddfa yn y tŷ, yn rhoi darnau o’r cyfweliadau a’r sgript i mewn ac yna’n anfon y drafft at feistres y periaint golygu, Jane Murrell, sydd wedyn yn saernïo’r cyfan yn ei stafell olygu hi ei hun. Yna, i orffen y broses, bydd y rhaglen yn mynd i stiwdio sain Cranc yn Llandaf i gael popeth yn gwbwl glywadwy, ac yna at gwmni Gelert yng Nghaerdydd i gael y lliwiau yn berffaith, y teitlau yn gywir a’r rhaglen yn barod i’w darlledu. Bob tro ry’n ni’n cyrraedd y prosesau hyn rwy’n dechre ymlacio gan fod y gwaith trwm wedi ei wneud, a does dim byd llawer y galla i ei wneud oni bai am wylio a gwrando. Mae’r penderfyniadau o ran beth sydd mewn a beth sydd mas, beth sydd yn mynd ble, i gyd wedi eu gwneud. Hwrê.

A mis Mawrth 2020, wrth i ni fwynhau llwyddiant Waliau’n Siarad a dychmygu lle gallen ni fynd mewn ail gyfres, fe ddaeth y clo a rhoi stop ar deithio a ffilmio.

Ffilmiau Ddoe

Felly, beth allwn i ei wneud nawr? A’r tro hwn wnes i braidd ddim edrych yn y llyfr nodiadau, nac edrych ar y sgrapiau o bapur sydd ar draws y swyddfa wedi eu ffeilio ar hyd y welydd o dan y penawdau cyffredinol “rhag ofn” … “syniadau” … “dyddiadau”. Yn hytrach, mi wnes i droi at un o fy hoff wefannau – at gasgliad hen ffilmiau’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain. Roedd yn rhaid creu syniad y gellid ei ffilmio yn ddiogel o ran amgylchiadau Covid-19, ond i fi roedd yn bwysig hefyd ei bod yn gyfres oedd yn codi awch am storïau bychain o’n hanes ni.

A daeth Ffilmiau Ddoe i fod. Cyfres fer ag un cyflwynydd gwahanol i bob rhaglen yn edrych ar ffilmiau amatur o Gymru ar draws y degawdau. Y ffilmio yn digwydd mewn un bore neu un prynhawn mewn stiwdio gyda phellter angenrheidiol rhwng y criw a’r cyflwynwyr, lot fawr o ddiheintio, a hylif gwrthfacterol ym mhobman.

Roedd pawb yn wych ac yn falch iawn o gael gadael y tŷ a theithio a gweithio! Roedd yn mynd â ni i rywle heblaw Cymru 2020 oherwydd brwdfrydedd y cyflwynwyr a’u gwesteion a’r ffilmiau – y trysorau. Mae yma gymaint o berlau: ffilm o drên o 1898, cneifio yn Nyffryn Banw yn y 1950au, Nadolig ym Mhontypridd yn y 50au, a phriodasau mawr a bach o 1911 ymlaen. Rwy’n caru defnyddio ffim archif mewn rhaglenni ac roedd hon yn gyfres fendigedig i’w gwneud er ein bod ni mewn clo llwyr.

 

 

Llwyddiant Waliau’n Siarad i fi oedd gweld Sara ac Aled yn dod â brics a mortar yn fyw ac yn dweud storïau o’n hanes ni wrth edrych ar un adeilad, un teulu, un ardal, un cwmni penodol ym mhob rhaglen. Yn anffodus, doedd S4C ddim am gyfres arall, felly ar hyn o bryd rydw i ’nôl yn chwilota yn yr hen lyfrau nodiadau, y bocs sy’n dweud “syniadau”, y sgrapiau o bapur … pwy a ŵyr be ddaw nesa …

 

 

 

#waliaunsiarad

#ffilmiauddoe

@gelert_post

@CrancAudio

@sara_huws

@boimoel

@aledjenkins1