
Mae Cymdeithas Dai Barcud wedi cwblhau trefniant ail-gyllido yn dilyn yr uniad rhwng Tai Ceredigion a Thai Canolbarth Cymru. Bwriad yr ail-gyllido fydd i gyflawni un o’u hamcanion strategol, sef darparu 5,000 o gartrefi deiliadaeth gymysg, sy’n gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy o safon, erbyn 2025
Ar y 1af o Dachwedd 2020, unwyd y ddwy gymdeithas dai, un o’r canolbarth a’r gorllewin. Dyna’r tro cyntaf erioed i gymdeithas dai traddodiadol a sefydliad trosglwyddo stoc Cyngor Sir uno â’i gilydd yng Nghymru.
Mae Barcud yn berchen ar dros 4,000 o gartrefi ledled Ceredigion, Powys, Gogledd Sir Benfro a Sir Gâr, ac yn eu rheoli, ac mae hefyd yn cyflogi dros 300 o aelodau o staff. Mae grŵp Barcud yn cynnwys is-gwmnïau, sef Gofal a Thrwsio Powys, EOM a’r Gymdeithas Gofal.

Meddai Kate Curran, Cyfarwyddwr Grŵp Cyllid a TGCh:
“Mae gweithio fel un sefydliad yn cryfhau ein gwasanaethau a’n trefniadau llywodraethu ac yn ein galluogi i ddefnyddio ein hadnoddau a’n harbenigedd ar y cyd i helpu i gynnal a chadw, gwella ac adeiladu cartrefi fforddiadwy o safon, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Mae hefyd wedi ein galluogi i ail-gyllido er mwyn adeiladu ar ein cryfderau. Yn dilyn yr uno, ein bwriad oedd ail-gyllido’r cyllid yr oeddem yn ei gael gan fanciau, er mwyn gwneud yn fawr o’r manteision o ran trysorlys a oedd ar gael i Barcud, a oedd yn cynnwys denu cyllid hirdymor rhad. Roedd gan y gymdeithas unedig fenthyciadau hanesyddol â llog uchel gan fanciau, nad oeddent yn dal unrhyw werth o’u cymharu â’r benthyciadau hirdymor rhad sydd ar gael yn awr.
Gyda cymorth cwmni Centrus, penderfynwyd creu perthynas gyda Aberdeen Standard Investments (ASI), sef un o bartneriaid rheoli asedau strategol Phoenix Group, sef busnes mwyaf y DU ym maes cynilion hirdymor ac ymddeol.
Mae ASI wedi darparu Trefniant Preifat gwerth £50 miliwn ar sail gyfradd sefydlog sydd gryn dipyn yn is na’r hyn a ddisgwyliwyd. Mae’r cyllid hirdymor hwn yn darparu sylfaen wych i fuddsoddi yn y dyfodol. Mae’r enillion wedi’u defnyddio i ail-gyllido dyled sydd gennym eisoes i fanciau, ac mae’r gweddill ar gael i gefnogi ein cynlluniau i dyfu.
Mae Barcud hefyd wedi ymestyn y berthynas ardderchog sydd ganddo eisoes â Banc Barclays ccc, drwy fanteisio ar Gyfleuster Credyd Cylchdröol gwerth £20 miliwn, sy’n darparu cyllid hyblyg yn y byr dymor.
Os bydd Barcyd yn cyflawni mesurau lleihau effaith ar yr amgylchedd, gwaith cymdeithasol a llywodraethu effeithiol, byddant yn cael budd o ostyngiadau pellach yng nghost cyllid.
Mae cwblhau’r prosiect ailgyllido hwn cyn pen naw mis ar ôl yr uno’n dipyn o gamp i bawb dan sylw. Mae llwyddo i ddenu cyllid newydd ar delerau ardderchog yn adlewyrchu cryfder Barcud, sydd wedi’i hybu ymhellach yn awr.”
Meddai Steve Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud:
“Roedd y ddwy gymdeithas dai yn arddel yr un gwerthoedd a’r un uchelgais, sef ymdrin â’r prinder tai fforddiadwy o safon y mae eu hangen yn fawr yn y canolbarth a’r gorllewin. Mae Barcud yn ymwybodol o’r heriau y mae’r sector tai lleol yn eu hwynebu. Gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, rydym yn awr mewn sefyllfa gryfach fyth i allu parhau i weithio tuag at yr amcan hwnnw ac ymrwymo’n llawn i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cartrefi newydd a fforddiadwy, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn dal i wrando ar ein tenantiaid ac i weithio’n galed i ddatblygu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion ein cymunedau. Rydym yn byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny ac rydym am i’n tenantiaid a’n staff fod yn falch o’r gwasanaethau a ddarperir gennym. Gyda dealltwriaeth drylwyr ein tîm o anghenion yr ardal, a’n cryfder a’n heffeithlonrwydd ar y cyd, gallwn ddiwallu’r holl ystod o anghenion o ran tai yng nghanol Cymru. Yn dilyn proses gyfweld ddwys, roedd Barcud yn falch o allu penodi Centrus yn gynghorwyr i’n tywys drwy brosiect ail-gyllido trylwyr er mwyn sicrhau ein bod fel cymdeithas dai yn addas i’n diben ar gyfer y dyfodol. Mae cwblhau’r prosiect wedi darparu sylfaen gadarn ar gyfer ein datblygiadau yn y dyfodol.”

Meddai Fiona Dickinson, Cyfarwyddwr Buddsoddi, Aberdeen Standard Investments:
“Oherwydd ein gwybodaeth eang am y sector tai fforddiadwy yn y DU, roedd ASI mewn sefyllfa dda i chwarae rôl hollbwysig yn y broses o gysylltu cyfalaf hirdymor ein partner strategol â’r cyfle gwych hwn i gyllido cartrefi newydd yng Nghymru, sicrhau effaith gadarnhaol o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol ac o safbwynt llywodraethu, a newid bywydau pobl er gwell.”
Meddai Michael Eakins, Prif Swyddog Buddsoddi, Phoenix Group:
“Rydym wrth ein bodd o fod wedi cwblhau’r broses hon er mwyn darparu tai cymdeithasol, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, ar draws rhanbarth y canolbarth a’r gorllewin drwy barhau i ddefnyddio ein cyfalaf i arloesi er mwyn hybu effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol. Mae defnyddio targedau ar gyfer effeithlonrwydd ynni i lunio’r cytundeb hwn yn mynd i wraidd ein hagenda o ran cynaliadwyedd a’n ffocws ar sicrhau bod ein buddsoddiadau’n helpu i sicrhau adferiad gwell a mwy gwyrdd. Rydym yn gwybod bod prinder tai difrifol ar draws y DU, ac rydym wedi ymrwymo i wneud ein gorau i helpu pobl a chymunedau ym mhob man.”
Meddai Richard Whittaker, Cyfarwyddwr Cydberthnasau, Barclays:
“Rydym yn falch o allu parhau i gefnogi Barcud drwy gyfnod nesaf ei strategaeth ail-gyllido, drwy ddarparu Cyfleuster Credyd Cylchdröol sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd. Mae’r cytundeb hwn yn pwysleisio ymhellach ein hymrwymiad parhaus i’r sector tai yn y DU, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r tîm rheoli er mwyn helpu’r gymdeithas dai uchelgeisiol hon i gyflawni ei hamcanion yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”