Balchder Bro

Calendr arbennig ar gyfer 2022

gan Rhiain Williams
Clawr y Calendr

Cafodd Pwyllgor Cymdeithas Llanfihangel-y-Creuddyn a’r Cylch syniad o greu calendr ar gyfer 2022 a gwahoddwyd pobl yr ardal i anfon lluniau o’r fro, y gymuned, llefydd o harddwch naturiol – beth bynnag sy’n cyfleu ‘Balchder Bro’.

Cafwyd ymateb arbennig i’r cais a daeth llawer o luniau i law.

Diolch i Tegwen Morris, Trefnydd Cenedlaethol Merched y Wawr a ffotograffydd brwd am ddethol y lluniau sydd yn ymddangos yn y calendr.

Os am gopi, cysylltwch á Rhiain Williams (07957 099 679).

Bachwch gopi am £5 – bargen!