1. Annibyniaeth i Gymru? (1 = yn gryf yn erbyn, 10+ yn gryf o blaid)
Cadan ap Tomos (Dem. Rhydd.): 6/10
Dylan Lewis-Rowlands (Llafur): 10/10
Stephanie Evans (Freedom Alliance): 5/10
2. Ynni niwclear?
Cadan ap Tomos: Ie
Dylan Lewis-Rowlands: Na
Stephanie Evans: Ansicr
3. Rygbi, pêl-droed neu rywbeth arall?
Cadan ap Tomos: Rygbi
Dylan Lewis-Rowlands: Rygbi
Stephanie Evans: Rygbi
4. Hoff flas hufen ia?
Cadan ap Tomos: Caramel hallt
Dylan Lewis-Rowlands: Caramel hallt
Stephanie Evans: Mefus
5. Mwy o ffocws ar…
Cadan ap Tomos: Rheilffyrdd
Dylan Lewis-Rowlands: Rheilffyrdd
Stephanie Evans: Ffyrdd
6. Pasbortau brechlyn?
Cadan ap Tomos: Na
Dylan Lewis-Rowlands: Ansicr
Stephanie Evans: Na
7. Os bydd eich plaid chi yn ennill, a fyddwch yn codi lefel trethi ac ar bwy?
Cadan ap Tomos: Dim yn codi trethi o reidrwydd, ond yn eu newid – yn enwedig sgrapio ardrethi busnes!
Dylan Lewis-Rowlands: Ni ydy chodi trethu yn rhan o ein cynllun i symud Cymru ymlaen, ond yn bersonol, os mae angen codi trethiant, byddai yn ymladd i sicrhau bydd y cyfoethog a chorfforaethau yn talu fwy.
Stephanie Evans: Yn bendant na. Mae pobl eisoes wedi’u hymestyn i’w terfynau.
8. Ydych chi’n cefnogi ail-agor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Caerfyrddin?
Cadan ap Tomos: Ie
Dylan Lewis-Rowlands: Ie
Stephanie Evans: Ie
9. Ydych yn gweld bod newid hinsawdd yn grisis?
Cadan ap Tomos: Ydw
Dylan Lewis-Rowlands: Ydw
Stephanie Evans: Ydw
10. Ble ydych chi’n ei hoffi fwyaf?
Cadan ap Tomos: Cymysgedd o fynyddoedd, traethau a threfi!
Dylan Lewis-Rowlands: Mynyddoedd
Stephanie Evans: Mynyddoedd
11. Ydych chi’n credu fod y cyfnod clo wedi bod yn effeithiol?
Cadan ap Tomos: Ydy
Dylan Lewis-Rowlands: Ydy
Stephanie Evans: Ydy
12. Ydy hi’n well cadw dosbarth chwech ysgolion gwledig ar agor, neu ydi hi’n well syniad sefydlu coleg trydyddol mawr (Coleg Meirion Dwyfor)?
Cadan ap Tomos: Cadw’r dosbarthau gwledig
Dylan Lewis-Rowlands: Cadw’r dosbarthau gwledig
Stephanie Evans: Cadw’r dosbarthau gwledig
13. Darllen llyfr neu wrando ar y llyfr sain?
Cadan ap Tomos: Darllen
Dylan Lewis-Rowlands: Dim ots
Stephanie Evans: Darllen
14. Ydych chi’n meddwl fod BLM (Black Lives Matter) wedi bod yn llwyddiannus i leihau hiliaeth yng Nghymru?
Cadan ap Tomos: Ydy
Dylan Lewis-Rowlands: Ydy
Stephanie Evans: Ydy
15. Pwy sy’n eich ysbrydoli?
Cadan ap Tomos: Sawl person, ond yn bennaf ar hyn o bryd yw’r diweddar Shirley Williams.
Dylan Lewis-Rowlands: Mae gen i gwpl i fod yn deg: wrth gwrs, Aneurin Bevan, ond hefyd, Elystan Morgan, Kier Hardie, a Rhodri Morgan.
Stephanie Evans: Y bobl rydw i wedi cwrdd â nhw trwy fy mywyd.
16. Rhannu brechlynnau gyda gwledydd llai ffodus, neu beidio?
Cadan ap Tomos: Ie, nawr
Dylan Lewis-Rowlands: Ie, nawr
Stephanie Evans: Ie, nawr
17. Ydych chi’n credu mewn rhyddid crefyddol? (cwestiwn dewisol)
Cadan ap Tomos: [gwrthod]
Dylan Lewis-Rowlands: Ydw
Stephanie Evans: [gwrthod]
18. Lle ydych yn sefyll o ran erthyliadau? (cwestiwn dewisol)
Cadan ap Tomos: O blaid
Dylan Lewis-Rowlands: O blaid
Stephanie Evans: [gwrthod]
19. Pa un ydych chi’n mwynhau fwyaf? Beicio, cerdded neu sbin yn y car?
Cadan ap Tomos: Beicio
Dylan Lewis-Rowlands: Cerdded
Stephanie Evans: Cerdded
20. Codi treth i ariannu un peth newydd, beth fyddai e/o?
Cadan ap Tomos: Buddsoddiad mewn isadeiledd fel trafnidiaeth gyhoeddus.
Dylan Lewis-Rowlands: Ariannu ag ailsefydlu rhwydwaith o trafnidiaeth gyhoeddus (rheilffyrdd a bysiau) a bydd yn ailegino cymunedau ac yn cysylltu cymunedau ledled Ceredigion a Chymru.
Stephanie Evans: Ni fyddwn yn codi trethu. Byddai angen chwilio cyllid o sop eraill.
21. Beth yw’r un peth hoffech chi weld yn digwydd i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg?
Cadan ap Tomos: Normaleiddio addysg Gymraeg i bawb, gyda Deddf Addysg Gymraeg i Bawb newydd.
Dylan Lewis-Rowlands: Symudiad tuag at bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol iaith Gymraeg.
Stephanie Evans: Cadw ysgolion pentref ar agor.
22. Sut mae manteisio at dwristiaeth yng Ngheredigion heb wanhau cymunedau i bobol leol?
Cadan ap Tomos: Cynllunio cymunedau cynaliadwy a sicrhau eu bod yn gallu elwa’n fwy o dwristiaeth, er enghraifft drwy gau’r loophole sy’n gadael i berchnogion cartrefi gwyliau osgoi treth gyngor. Ond hefyd, sicrhau bod ’na ddigon o dai newydd fforddiadwy a swyddi i gadw pobl yn ein cymunedau!
Dylan Lewis-Rowlands: Mae angenrheidrwydd arnynt i arallgyfeirio ac ehangu economïau ein cymunedau lleol- diwydiannau gwyrdd a gwaith efo cyflog sefydlog- i sicrhau mae ’na bas economaidd sefydlog yn ein cymunedau. Allwn ni wedyn manteisio at dwristiaeth wrth fod yn sicr bydd ein cymunedau yn sefydlog ac wedyn allwn ni wir manteisio ar dwristiaeth.
Stephanie Evans: Gwella darpariaethau sbwriel, arwyddion gwell fel bod twristiaid yn deall beth mae pobl leol yn disgwyl. Rwy’n meddwl bod angen terfyn ar y nifer o ail gartrefi a chyflwyno polisi ‘locals first refusal‘ ar bryniannau tai, byddwn hefyd yn edrych ar sut gallwn annog gwerthwyr i beidio prisio pobl leol allan o’r farchnad tai.
23. Beth fyddech chi’n ei wneud i helpu iechyd meddwl pobol ifanc?
Cadan ap Tomos: Buddsoddiad i greu gwasanaeth iechyd meddwl 24/7, fel bod gan bawb fynediad at y cymorth sydd ei angen. Mae hynny’n golygu mwy o staff, a mwy o gapasiti ar gyfer therapïau siarad.
Dylan Lewis-Rowlands: Mae angen sicrhau bod iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn cael ei drin yn hafal. Mae angen ailegino ein gwasanaethau iechyd meddwl ffurfiol, ond mae hefyd angenrheidrwydd ar y llywodraeth u adeiladau rhwydwaith o wasanaethau lleol, eu rhedeg gan bobl leol.
24. Ble ydych chi’n byw?
Cadan ap Tomos: Aberystwyth
Dylan Lewis-Rowlands: Cwm Cynon/Aberystwyth/Pontrhydfendigaid
Stephanie Evans: Cribyn, ger Llambed