Arolwg Tai Gwledig ardal Talybont

Cyfle i ddweud eich dweud am yr anghenion tai yn eich cymuned a dweud a oes angen tŷ arnoch chi yn y pentref neu’r gymuned leol. Efallai eich bod chi’n ystyried symud i dŷ llai o faint hefyd.

gan Keith Henson
RHE-sharper-01

Ydy chi’n byw ym Montgoch, Talybont, Tre Taliesin, Tre’r Ddôl, Ffwrnes, Eglwys Fach a’r ardaloedd cyfagos?

Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud am yr anghenion tai yn eich cymuned a dweud a oes angen tŷ arnoch chi yn y pentref neu’r gymuned leol. Efallai eich bod chi’n ystyried symud i dŷ llai o faint hefyd.

Llenwch yr holiadur trwy fynd i’r ddolen hon:

https://bit.ly/3fAuC8V

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, cysylltwch â Keith Henson ar 01570424318 (keith.henson@barcud.cymru) i dderbyn copi papur. Fel arall, gallwch hefyd gasglu copi papur o’r arolwg yn y lleoliadau canlynol:

Siop Talybont

Llew Gwyn Talybont

Caffi Cletwr

Cofiwch annog ffrindiau, teulu, cymdogion a thrigolion yr ardal i gwblhau’r holiadur hefyd. Bydd eich mewnbwn yn helpu i sicrhau, os oes unrhyw ddatblygiadau yn yr ardal, eu bod yn ymateb i anghenion pobol leol.

Y dyddiad cau ar gyfer llenwi’r holiadur yw 30/9/2021.

Darperir yr arolwg gan yr Hwylusydd Tai Gwledig (HTG) ar gyfer Ceredigion a’r ffiniau. Mae’r HTG yn gweithio gyda chymunedau gwledig i ymchwilio i’r angen lleol am gartrefi fforddiadwy ac i gefnogi unigolion a theuluoedd i brynu cartref yn eu cynefin, sydd o bosib allan o’u gafael oherwydd y cynnydd aruthrol mewn prisiau tai yn y gorllewin.   Trwy weithio gyda’r gymuned, cynghorwyr a datblygwyr lleol y nod yw ceisio dod o hyd i gyfleoedd a photensial ar gyfer datblygiadau newydd. Mae hyn yn golygu bod llais pobl leol yn cael ei glywed o ran tai ac yn cefnogi dewis pobol leol i ymgartrefu yng nghefn gwlad.