Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’n anodd credu fod pethau wedi newid cymaint. Ni allwn deithio – ac, yn anoddach i ni, ni allwn agor ein theatr … ond rydym ni wedi bod yn creu gwaith ers dechrau’r pandemig (o fewn y cyfyngiadau, wrth gwrs! )
Does dim byd tebyg i allu gweld darn o gelfyddyd yn fyw mewn theatr a gallu trafod gyda’ch ffrindiau ar ôl y perfformiadau am eich hoff ran. Er nad yw hyn yn digwydd mwyach, rydym wedi bod yn creu darn o theatr lle bydd ysgolion yn medru ei weld ar lein – drwy ffrydio ein gwaith ar wefan AM. Gyda’r cyfle newydd i ddangos gwaith i gynulleidfaoedd ac i gynnig celfyddyd i bobl ifanc, rydym ni yn Arad Goch wedi gweithio’n galed i ddatblygu ein ffordd o weithio.
Ein cynhyrchiad diweddaraf yw Nid Fi. Drama a gafodd ei ysgrifennu gan Mari Rhian Owen ’nôl yn y 90au yw hon, ac mae’n trafod effaith bwlian yn yr ysgol. Er ei bod wedi cael ei pherfformio gan Arad Goch nifer o weithiau, mae’n datblygu bob tro, a’r tro hwn mae’n canolbwyntio ar effaith bwlio ar lein.
Nid yn unig rydym ni wedi llwyddo i greu gwaith a’i ddatblygu i fod yn fodern, ond rydym yn dal i gynnig cyfleoedd i bobl o fewn y diwydiant. Gyda dau actor newydd i’r cwmni yn rhan o’r cast, mae Cadi Beaufort ac Elin Gruffydd wedi bod yn gweithio gydag Aaron William-Davies i greu perfformiad y bydd y disgyblion yn ei fwynhau, ac yn medru dysgu gwers o’r cynhyrchiad yr un pryd.
Hyd yn oed tu ôl i’r llwyfan, mae Arad Goch wedi cefnogi cwmni ffilmio lleol a darlunydd lleol yn y broses o greu’r ddrama hon. Mewn cyfnod fel hyn, mae wedi bod yn bwysig i’r cwmni allu cefnogi gweithwyr llawrydd y diwydiant a rhoi cyfleoedd iddynt i greu gwaith. Wrth feddwl am hyn, mae’r cyfnod diweddar wedi bod yn gyfle i’r cwmni ddatblygu ei ffordd o weithio ac i fod yn fwy hyblyg a rhagweithiol am y dyfodol.
Gyda mwy o brosiectau i ddod, mae’n adeg gyffrous i fod yn rhan o’r cwmni, ac felly cadwch lygaid ar ein rhwydweithiau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.