Anwen ar gomisiwn newydd ar ddyfodol Cymru

Darlithydd o Brifysgol Aberystwyth ar banel newydd

Penodwyd Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ar gomisiwn newydd, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru heddiw (16-11-2021). Gallwch ddarllen datganiad llawn Llywodraeth Cymru yma.

Mae Anwen ymhlith y naw unigolyn a benodwyd yn y cyhoeddiad a wnaed yn y Senedd gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Dau amcan eang sydd gan y comisiwn annibynnol newydd ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

  1. Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn dal i fod yn rhan annatod ohoni.
  2. Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Mae diddordebau ymchwil y Dr Elias yn cynnwys gwleidyddiaeth gymharol diriogaethol a chyfansoddiadol, pleidiau gwleidyddol a democratiaeth ymgynghorol. Mae’n gyd-Gyfarwyddwr ar Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru.

Gan ymateb i’w phenodiad, dywedodd y Dr Elias: “Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar adeg hollbwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru a Phrydain fel ei gilydd. Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi iddo, ac edrychaf ymlaen at allu cyfrannu at ei waith pwysig dros y ddwy flynedd nesaf.”

Bydd y Comisiwn yn cael ei gyd-gadeirio gan yr Athro Laura McAllister (Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant) a’r Gwir Barchedig a Gwir Anrhydeddus Ddr Rowan Williams.

Bydd y Comisiwn yn cynnwys aelodau o ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol ac o wahanol rannau o gymdeithas Cymru. Ymysg yr aelodau eraill mae cyn-wleidyddion Leanne Wood, Kirsty Williams a Albert Owen.

Gofynnwyd i’r Comisiwn lunio adroddiad interim erbyn diwedd 2022 ac adroddiad llawn gydag argymhellion erbyn diwedd 2023.

Ymunodd Anwen Elias âr Adran yn Chwefror 2005. Mae ei gwaith ymchwil a dysgu yn cwmpasu gwleidyddiaeth Ewrop, rhanbartholdeb cymharol, cenedlaetholdeb, pleidiau gwleidyddol a systemau pleidiol.

Mae gwaith ymchwil Anwen yn canolbwyntio ar genedlaetholdeb a phanbartholdeb o bersbectif cymharol (gyda’r prif ffocws ar Orllewin Ewrop).

Mae ei gwaith wedi astudio agweddau pleidiau cenedlaetholgar a rhanbarthol tuag at integreiddio Ewropeaidd, yn ogystal a’r ffyrdd y bydd y pleidiau yma yn ceisio sicrhau ac addasu i newid cyfansoddiadol.

Pob lwc Anwen gyda’r gwaith.