Amser yn rhedeg allan yn Llanilar! Heno!

Mae cyfle gwych ar hyn o bryd i gael cysylltiad cyflym dros ben yn ardal Llanilar, ond rhaid gweithredu NAWR!

gan Andrew Hawke
WeFibre_Llanilar

Ardal band eang gigabit Llanilar

Mae Ceredigion Digidol (digidol@ceredigion.gov.uk), ymgyrch band eang cyflym Cyngor Sir Ceredigion, wedi cyhoeddi’n ddiweddar fod y cwmni WeFibre wedi dewis ardal Llanilar (hyd at Lanfarian, Rhod-mad a Rhos-y-garth) ar gyfer band eang ffeibr 1 gigabit (h.y. 1,000 Mbps!) am brisiau arbennig iawn (gan gynnwys busnesau ac unigolion), gan fanteisio ar grantiau gan Lywodraeth y DU o £1,400 i bob eiddo a £3,500 i fusnesau. OND, i fanteisio ar hyn, rhaid i gant o leiaf o bobl ddangos diddordeb, a rhoi caniatâd i’r cwmni hawlio’r grant ar eu rhan erbyn heno, 29 Mawrth.

Fel rhan o’r Gronfa Uwchraddio Band Eang, mae Wefibre wedi cadarnhau y bydd yn darparu gwasanaeth cysylltiad ffeibr i adeiladau yn eich ardal a’i fod yn gobeithio cychwyn ar y prosiect hwn cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn caniatáu i chi gael cyflymder o hyd at 1Gbps (1000Mbps). Maent wedi nodi bod angen 100 o lofnodion arnynt er mwyn i’r prosiect fynd yn ei flaen.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect hwn a derbyn gwasanaeth gan WeFibre yna a alla’i ofyn i chi glicio ar ddolen ‘Reserve my Voucher’ ar y wefan isod. Bydd hyn yn caniatáu i’ch manylion gael eu rhannu gyda WeFibre, a bydd y cwmni’n cysylltu â chi i roi rhagor o fanylion ac i gadarnhau eich ymrwymiad.

https://wefibre.com/grants

Os oes gennych unrhyw gwestiynau gellir cysylltu â Neil Davies, aelod lleol o dîm WeFibre yn helpdesk@wefibre.com neu ar 0330 229 0222.

Mae hyn yn gyfle gwych, gan fod y cwmni yn cynnig taliadau isel o ryw £20 y mis (hyd yn oed i fusnesau bach).