gan
William Howells
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2021/10/DilladHyd2021-640x396.jpg?0)
Mae’n siwr fod rhai ohonoch wedi sylwi ar ychwanegiad lliwgar iawn o flaen Garej Penrhyn-coch! Mae elusen Nisa Making a Difference Locally wedi lansio menter newydd i helpu busnesau i godi arian ar gyfer elusennau lleol ar ffurf banciau dillad. Er mwyn gwneud defnydd gwell o’ch hen ddillad, lleihau’r effaith ar yr amgylchedd a hefyd helpu i gyfrannu at achosion lleol, defnyddiwch fanc dillad Tymawr.
Dyma gyfle perffaith i glirio’ch wardrob a chyfrannu at achosion lleol yr un pryd!