Agoriad swyddogol Lloches ger y môr Llansantffraid, Llanon

Dathlu’r lloches newydd gyda gweithgareddau i’r teulu

gan Nia Harries

Tŷ Haf Mrs Lloyd, Roseland. Y lloches wreiddiol

Cynghorydd Dafydd Edwards yn ei agor yn swyddogol

Trigolion y pentre’n mwynhau’r agoriad

Nos Wener, Medi’r 3ydd, cynhaliwyd agoriad swyddogol Lloches newydd ger y môr yn Llansantffraid, Llanon. Cafodd ei agor yn swyddogol gan y Cynghorydd Dafydd Edwards a’i bendithio gan y Parchedig Julian Smith. Braf oedd gweld trigolion y pentre’ yn ymgynnull ar gyfer yr achlysur yma.

Bu’r lloches wreiddiol yn sefyll ers 1931 gyda rhai o drigolion y pentre’ yn cofio hyd cwrt tenis rhwng y lloches a’r môr. Tŷ Haf Mrs Lloyd, Roseland, oedd y lloches yn wreiddiol a chafodd ei gadael i’r gymuned. Yn anffodus bydd rhaid ei dymchwel yn ddiweddar oherwydd erydiad y môr.

Mae’r lloches newydd wedi ei dylunio fel bod modd ei symud gydag amser er mwyn osgoi’r erydiad. Cafodd y sylfeini eu paratoi gan Dan y Glo (Daniel Lewis) â’i hadeiladu gan saer lleol, Emyr Harries (y gŵr!)

Gobeithio bydd llawer o deuluoedd y pentre’ yn cael budd ohoni a llawer o hwyl am flynyddoedd i ddod. Rydw i a’r plant wedi ei defnyddio sawl gwaith yn barod i gael picnic yn ‘hut Dadi’ fel ma’r bois yn ei galw!

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.