Taith Gerdded yr wythnos: O Aberystwyth i Lanrhystud

Iwan Bryn James sydd yn mynd a ni ar daith gerdded ar hyd llwybr yr arfordir Bae Ceredigion

Iwan Bryn James
gan Iwan Bryn James
IMG_20181009_135120

Dechrau’r daith

IMG_20181009_140041

Plac Pont Trefechan

IMG_20181009_140235

Pont Trefechan

IMG_20181009_140444

Harbwr Aberystwyth

IMG_20181009_141218

Allt Wen a thraeth Tan-y-bwlch

IMG_20181009_141546

Afon Ystwyth a Phen Dinas

IMG_20181009_144402

Aberystwyth o gopa’r Allt Wen

IMG_20181009_172238

Mynachdy’r Graig

IMG_20181009_144344

Creigiau tua 500 miliwn o flynyddoedd oed

IMG_20181009_175240

Creigiau Penderi

Diolch yn fawr i Lona Mason am fy enwebu i gyfrannu taith gerdded arall ar gyfer Bro Aber 360. Fel y dywedodd, rwy’n hoff o gerdded llwybr yr arfordir, ac felly, rwyf am rannu â chi gymal lleol o’r llwybr hwnnw rhwng Aberystwyth a Llanrhystud. Dyma oedd cymal cyntaf fy nhaith arfaethedig i gwblhau’r 870 milltir oddi amgylch arfordir Cymru yn ei grynswth, ac er imi bellach gyrraedd Llanarth (Amroth) ar y ffin rhwng sir Benfro a sir Gaerfyrddin, rwy’n dal ymhell o gyrraedd y nod!

IMG_20181009_140444
Harbwr Aberystwyth

I’r rhai ohonoch sydd am fentro dilyn ôl fy nhroed ar y daith hon, mae’n rhaid imi eich rhybuddio nad yw’r cymal hwn o’r llwybr yn un hawdd. Mae’n rhaid paratoi’n ofalus gan wneud yn siŵr eich bod yn cario digon o ddŵr yfed a hanfodion eraill i bara taith galed o ymron i ddeuddeng milltir gymharol ddiarffordd a garw, ond eithriadol o hardd. Wedi gadael Aberystwyth, ni cheir na siop na chaffi na thŷ bach nes cyrraedd pen y daith. Cymerais yn agos at chwe awr i gwblhau’r daith, felly, mae’n rhaid caniatáu digon o amser cyn iddi nosi, ac mae’n bwysig cadw llygad ar ragolygon y tywydd – ac fel y cewch ddarllen, mae map da yn hanfodol.

Lle i ddechrau

IMG_20181009_135120
Dechrau’r daith

Mae promenad Aberystwyth yn rhan swyddogol o lwybr yr arfordir, ac wedi pasio’r pier mae’n parhau heibio adfeilion un o gestyll ein concwerwyr a godwyd ym 1277.   Gyferbyn â’r cwt hufen iâ mae’r llwybr yn dilyn Ffordd y De at waelod Stryd y Bont cyn troi i’r dde dros Bont Trefechan ac afon Rheidol. Cewch oedi yma am ychydig eiliadau i ddarllen y plac sy’n cofnodi protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith nôl yn Chwefror 1963.

IMG_20181009_140041
Plac Pont Trefechan
IMG_20181009_140235
Pont Trefechan

Wedi croesi’r bont, rhaid troi yn syth i’r dde i gyfeiriad y Lanfa heibio’r harbwr a’i holl gychod, a’r pentyrrau o gewyll cimychiaid ar y cei. Wedi croesi’r bont at draeth Tan-y-bwlch, ac os yw’r tywydd yn braf, cewch weld ddyfroedd afon Ystwyth yn disgleirio ar eich chwith wrth droed Pen Dinas a’r gofgolofn a godwyd er cof am Ddug Wellington (o bawb!) ym 1858.

IMG_20181009_141546
Afon Ystwyth a Phen Dinas

Her gyntaf go iawn y daith yw dringo bryncyn trawiadol Allt Wen, ond wedi cyrraedd y copa ceir golygfeydd gwych iawn oddi yno o Aberystwyth a bae Ceredigion.

IMG_20181009_144402
Aberystwyth o gopa’r Allt Wen

Ar gopa’r Allt Wen y dois wyneb yn wyneb â’r unig gerddwr arall a welais yn ystod yr holl daith o draeth Tan-y-bwlch i Lanrhystud. Hyd yn oed yn anterth y tymor gwyliau dim ond ychydig o dramwyo sydd ar y cymal hwn o’r llwybr. Nid yw’r llwybr yn pasio’n agos at unrhyw bentref – oni bai am barc carafanau Morfa Bychan.

Mae pentref Blaenplwyf o’r golwg yr ochr arall i’r bryn, ac oherwydd y diffyg tramwyo, nid yw’r llwybr mor amlwg â hynny mewn ambell fan. Dyna pam yr es i ar goll yn ardal Morfa Bychan ar lethr gorllewinol y bryn lle saif mast Blaenplwyf. Roedd bai arnaf am fentro heb fap digon manwl, ond tybiais mai hawdd fyddai dilyn y llwybr, ond sylweddolais yn o sydyn nad yw’r llwybr yma mor hawdd i’w ddilyn â llwybr arfordir Sir Benfro. Oherwydd imi ddilyn y llwybr anghywir (peidiwch â dilyn y llwybr marchogaeth), gwastraffais hanner awr cyn cael fy hun yn ôl yn yr un lle ger Morfa Bychan! I ailymuno â’r llwybr bu’n rhaid i mi dorri ar draws sawl cae gan ddod wyneb yn wyneb â tharw – llwybr tarw go iawn! Yn ffodus, roedd gan y tarw fwy o fy ofn i, ac er mawr ryddhad, rhedodd i ffwrdd gyda chwech neu saith o wartheg i’w ganlyn. Fel y dywedais, mae map da yn hanfodol!

Yn ôl gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, roedd Morfa Bychan yn gartref i ŵr o’r enw Rhys Ddu yng nghyfnod gwrthryfel Glyndŵr. Am ei gefnogaeth i Owain, crogwyd Rhys gan y Saeson.

Llwybr yn gwella

Wedi gadael ardal Blaenplwyf a Morfa Bychan, gwelais fod y llwybr ychydig yn fwy amlwg ac yn haws i’w ddilyn, ac yn fuan wedyn, daeth hen ffermdy Ffos Las i’r golwg, ac yna, ffermdy hanesyddol Mynachdy’r Graig, lle a fu unwaith yn faenordy i Abaty Ystrad Fflur.

IMG_20181009_172238
Mynachdy’r Graig

Am ryw reswm, pan gerddais y cymal hwn, ychydig iawn o adar oedd i’w gweld, ac ni sylwais ar yr un barcud coch, na’r un wylan i mi adael traeth Tan-y-bwlch. Dim ond brân neu ddwy ac ychydig iawn o adar mân a welais. Mae’n bosibl mai amser y flwyddyn oedd y rheswm am hyn, neu a yw holl wylanod y glannau wedi mudo i Aberaeron ac Aberystwyth er mwyn dwyn sglodion a phaninis yr ymwelwyr?

Dywed y daearegwyr mai creigiau sy’n perthyn i’r oes Silwraidd ac Ordofigaidd yw creigiau arfordir Ceredigion. Ffurfiwyd yr hynaf ohonynt dros 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl ar lawr basn môr dwfn. Fe’u gwthiwyd i’r wyneb yn ystod oes ddiweddarach gan rymoedd nerthol y byd gan blygu’r haenau yn batrymau trawiadol. Gellir gweld enghreifftiau gwych o hyn yng nghlogwyni Penderi rhyw ddwy filltir, fel yr hed y frân, i’r de-orllewin o bentref Blaenplwyf.

IMG_20181009_144344
Creigiau tua 500 miliwn o flynyddoedd oed

Wrth barhau â’r daith ar hyd copaon y clogwyni uchel tua’r de, daw carafanau statig parc Pencarreg i’r golwg yn y pellter. Golyga hyn fod diwedd y daith yn agosáu. Wedi cerdded i lawr y llethrau o’r tir uchel creigiog, mae’r llwybr yn eich arwain drwy’r maes carafanau cyn ymuno â ffordd darmac sy’n croesi pont dros afon Wyre. Yn fuan wedyn byddwch  yn cyrraedd yr A487 gyferbyn â garej Llanrhystud a diwedd taith gymharol galed, ond eithriadol o bleserus.

Os am fentro, mwynhewch, ond byddwch yn ofalus.

Iwan Bryn James